Mae Arriva wedi gwneud newidiadau i'w gwasanaethau bws ar draws Gogledd Cymru.
Newidiadau ar Ynys Môn
Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd gan Arriva yn effeithio gwasanaethau yn:
- Caergeiliog
- Bodedern
- Trefor
- Gwalchmai Uchaf
- Llynfaes
- Bodffordd
- Llanddaniel
Bydd y newidiadau yn dod i rym ddydd Sul 24 Medi.
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y newidiadau i wasanaethau bysiau (yn Saesneg) ar wefan Arriva.
Pam mae hyn wedi digwydd
Mae Arriva wedi nodi eu bod wedi gwneud y newidiadau anodd hyn gan nad yw lefelau teithwyr wedi dychwelyd i’r lefelau yr oeddent cyn Covid-19 a bod costau wedi cynyddu’n sylweddol.
Gan fod y lleoliadau yn cael eu gwasanaethu ar sail fasnachol gan y gweithredwr, cyfyngedig iawn yw dylanwad y cyngor.
Neges gan y cyngor
Gwerthfawrogwn y bydd y newyddion hwn yn effeithio ar drigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn.
Er mwyn sicrhau bod y pentrefi uchod yn parhau i dderbyn gwasanaeth bws, mae’r cyngor yn edrych ar opsiynau i gyfeirio gwasanaethau eraill drwy’r pentrefi hyn. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl.
Mae’n annhebygol y byddwn yn gallu cynnig yr un lefel o amlder bysiau a ddarparwyd yn flaenorol gan Arriva.
Amserlenni
Cyhoeddir yr amserlenni bysiau diweddaraf gan Traveline Cymru.
Ewch i wefan Traveline Cymru
Ap Traveline Cymru
Gallwch hefyd lawrlwytho app Traveline Cymru oddi wrth y iPhone App Store (Apple) neu Google Play ar gyfer Android.
Ffoniwch Traveline Cymru
Gallwch ffonio nhw hefyd ar 0800 464 00 00.
Ymwadiad y cyngor
Ni fydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am unrhyw golled, ddifrod neu anhwylustod a achosir gan unrhyw anghywirdeb.