Gwasanaethau'r Cyngor:

Amdan Genesis Cymru 2

Fe fydd Genesis Cymru 2 - prosiect Môn yn gweithio’n ddyfal gyferbyn a phobol wrth eu darparu gydag arweiniad a chefnogaeth i’w cynorthwyo i adeiladu dyfodol disgleiriach.

Beth yw Genesis Cymru 2?

Nod Prosiect Genesis Cymru 2 yw cynyddu cyfranogiad yn y farchnad lafur, wrth ganolbwyntio ar y rhai sydd bellach ffwrdd o’r farchnad lafur gan geisio eu symud yn nes.

Fe fydd y prosiect yn taclo’r ochr gymdeithasol yn gychwynnol, ag fe wneith yr elfen economaidd ddilyn. O ganlyniad fe fydd y prosiect yn darparu pecyn cyflawn o gefnogaeth hyblyg a holistig o amgylch anghenion y client er mwyn delio gyda’r rhwystrau a wynebir gan unigolion syn anweithgar economaidd. Darparir hyn drwy sesiynau mentora a chodi hyder ar lefel un-i-un a sesiynau grŵp. 

Grwpiau Targed

Fe fydd y prosiect yn gweithio gydag unigolion 16 mlwydd oed ag drosodd, sydd yn byw yn Ynys Môn, ag sydd yn disgyn i un o’r categorïau dilynol :-

  • rhieni unigol
  • unigolion anweithgar economaidd (ac eithrio derbynwyr JSA)
  • derbynwyr Budd-dal ‘Incapacity’ / Budd-dal ‘ESA’
  • derbynwyr Budd-dal ‘Income Support’

Gweithgareddau / Cefnogaeth

  • mentora
  • adeiladu Hyder – lefel un-i-un a sesiynau grŵp
  • gweithgareddau yn ateb gofynion y client ag anghenion yr unigolyn

Proses Gyfeirio

Dylai cyfeiriadau gael eu gwneud trwy gwblhau yn llawn y ffurflen gyfeirio Genesis 2, ai dychwelyd at y tîm Genesis. Dylai pob gwybodaeth berthnasol gael ei ddatgelu ar y ffurflen gyfeirio. Fe fydd unigolion a fydd yn cysylltu yn uniongyrchol gyda’r tîm yn cael eu cyfeirio yn ôl at y sefydliad, a gofynnir i’r sefydliad gyfeirio’r client wrth ddilyn y broses gyfeirio.
 
Ni dderbynnir cyfeiriadau dros y ffon.

Danfonwch y ffurflen wedi’i cwblhau i:

Genesis Cymru Ynys Môn
Canolfan Blynyddoedd Cynnar Môn
Stryd-y-Bont
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7HL

Dogfennau i'w lawrlwytho

Cysylltu â Prosiect Genesis

Genesis Cymru Ynys Môn
Canolfan Blynyddoedd Cynnar Môn
Stryd-y-Bont
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7HL
Rhif Ffôn:0800 2346745 / 01248 751461
Ffacs:01248 751520
Ebost:genesis@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 14 Gorff 2009 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?