Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cwricwlwm


Mae’r adran addysg yn ceisio sicrhau addysg o’r ansawdd orau posibl i holl ddisgyblion/myfyrwyr Môn, ble bynnag y bônt yn byw yn y Sir

Yn unol â’u hoedran, gallu a diddordeb/tueddfryd, er mwyn iddynt dyfu’n bersonoliaethau llawn, datblygu ac ymarfer eu holl ddoniau, a chymhwyso eu hunain i fod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog.

Mae’r Awdurdod Addysg wedi amlinellu polisïau cwricwlaidd sirol, cynradd ac uwchradd, ac mae copïau ar gael gan yr Awdurdod Addysg. Mae ysgolion yn gweithredu’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn llawn ac yn sicrhau cydbwysedd rhwng y pynciau.

Mae’r ysgolion uwchradd yn cyflwyno cwrs addysg i ddisgyblion 14-18 sydd wedi ei seilio ar y Cwricwlwm
Cenedlaethol, ac ar Lwybrau Dysgu 14-19. Trwy gynnig rhaglen effeithiol o addysg bersonol a chymdeithasol a
chyfleoedd i ddilyn rhaglenni cynalwedigaethol, neu gyrsiau galwedigaethol, mae’r ysgolion nid yn unig yn ategu a chryfhau cyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol ond hefyd yn sicrhau fod gan bobl ifanc y wybodaeth, y medrau a’r cymwyseddau y bydd eu hangen arnynt mewn cymdeithas dechnegol sydd yn rhan o economi Ewrop a’r Byd