Gwasanaethau'r Cyngor:

Anghenion addysgol arbennig

Caiff mwyafrif y gwasanaethau eu darparu ar y cyd rhwng Ynys Môn a Gwynedd.

Y Gwasanaeth Anghenion Addysgol Arbennig

Tîm o Seicolegwyr Addysg ac Athrawon Arbenigol gyflogir drwy drefniadau’r Cydbwyllgor AAA ar y cyd efo Cyngor
Gwynedd. Sylfaenir prif ddyletswyddau’r Gwasanaeth ar anghenion plant unigol. Maent yn cynnwys asesu’r anawsterau a rhoddi cyngor i athrawon a rhieni ar sut y gellir eu goresgyn, yn ogystal â chynorthwyo plant yn uniongyrchol. Cyfeirir plant fel rheol at y Gwasanaeth gan brifathrawon yn dilyn trafodaeth a rhieni ond gall eraill, gan gynnwys rhieni eu hunain, gysylltu â seicolegydd trwy’r Swyddfa Addysg

Egwyddorion y gwasanaeth

Mabwysiadodd yr Awdurdod Addysg gyfres o egwyddorion i lywio ei weithgareddau yn y maes hwn sef :

  • Sicrhau cyfle cyfartal cwricwlaidd a chymdeithasol i blant ag anghenion addysgol ychwanegol gan eu haddysg mewn ysgolion prif-lif lle bo hynny’n bosib. Cynhelir un ysgol arbennig, Ysgol Y Bont, gan yr Awdurdod ar gyfer disgyblion gydag anawsterau dysgu dwys ac anghenion cymhleth. Datblygir gwasanaeth allgymorth o’r ysgol arbennig i’r ysgolion prif-lif. Darperir lleoliadau arbenigol ar gyfer disgyblion gydag anghenion emosiynol ac ymddygiadol dwys hir dymor yn Ysgol Coed Menai drwy drefniant gydag Awdurdod Addysg Lleol Gwynedd. Fel rheol, bydd gan ddisgyblion a leolir mewn ysgolion arbennig ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae gan yr Awdurdod ddwy uned asesu cyn-ysgol i blant ifanc ag anghenion addysgol arbennig a thair uned ôl-gynnydd rhan amser i blant rhwng 6 ac 11 oed.
  • Darparu addysg oddi mewn i’r Sir lle bo’n bosib. Neilltuir lleoliadau mewn ysgolion arbennig nas cynhelir acysgolion annibynnol ym Môn neu yn all-sirol i achosion lle na ellir darparu’n briodol ym Môn.
  • Cyd-weithio’n effeithiol ag asiantaethau statudol eraill perthynol i’r maes megis yr Awdurdod Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Sefydlu partneriaeth â rhieni a Chyrff Gwirfoddol sy’n eu cynrychioli. Mae’r Awdurdod yn trefnu i wasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth annibynnol fod ar gael i rieni plant gydag AAA drwy SNAP Cymru (ffôn 01286 674999).
  • Sicrhau ymateb Awdurdod Addysg Cyfan ag Ysgol Gyfan i anghenion addysgol ychwanegol.

Mae gweithredoedd yr Awdurdod Addysg yn y maes yn seiliedig ar Ddeddf Addysg 1996 a’r ddogfen “Cod Ymarfer
Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002”. Trwy’r Cod Ymarfer diffinnir dyletswyddau ysgolion prif-lif a’r AwdurdodAddysg yn ganolog yn glir, gan sefydlu cyfundrefn yn seiliedig ar gyfnodau o ymyrraeth gynyddol. Cyfrifoldeb ysgolion trwy eu cyllidebau datganoledig ydi ymateb i anghenion disgyblion ar y cyfnodau ‘Ysgol’ ac ‘Ysgol a Mwy’. Mae’r Awdurdod Addysg yn darparu cefnogaeth i’r ysgolion wrth iddynt ymateb i anghenion ychwanegol disgyblion ar gamau ‘Ysgol’. Mae gan yr Awdurdod gyfrifoldeb statudol i asesu anghenion disgyblion gydag anghenion cymhleth a dwys ac i ddarparu adnoddau ychwanegol ar eu cyfer lle bo angen.

  • Anghenion Addysgol Arbennig - mwy o wybodaeth

    Mae Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2001 a ddaeth i rym ar 1af Ebrill, 2002 yn gosod dyletswydd ar AALlÆau i gyhoeddi gwybodaeth am faterion yn ymwneud â darparu addysg i blant gydag anghenion addysgol arbennig.

Diweddariad diwethaf: 9 Mai 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?