Cyllid myfyrwyr
Sut i wneud cais am ffioedd hyfforddi, benthyciad myfyriwr a grantiau eraill.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu’n gryf na ddylai pobl fel chi sy’n awyddus i ddysgu cael eu heithrio o ganlyniad i ddiffyg arian ac mae llawer o opsiynau ar gael i fyfyrwyr.
Bydd y cymorth ariannol sydd ar gael yn dibynnu ar ychydig ffactorau gwahanol, gan gynnwys eich incwm â’ch amgylchiadau teuluol, eich oedran, ymhle yr hoffech astudio ac a ydych yn dysgu yn llawn-amser neu’n rhan-amser.
Cewch fanylion llawn am y grantiau a benthyciadau sydd ar gael ar safle gwe Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Am ragor o fanylion, cysylltwch Gwasanaethau Myfyrwyr yn y swyddfa addysg.





