Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr 16+
Gall disgyblion o deuluoedd gydag incwm isel sy’n dymuno aros yn yr ysgol y tu draw i’r oedran gadael ysgol statudol hawlio Lwfans Cynnal Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag ysgol uwchradd eich plentyn neu ymwelwch â gwefan LCA Cymru
Mae gwefan LCA Cymru yn rhoi help a gwybodaeth i:
- Fyfyrwyr. Darganfyddwch sut y gallech gael lwfans wythnosol drwy barhau mewn addysg.
- Rhieni a gwarcheidwaid. Darganfyddwch sut y gall LCA helpu myfyrwyr gyda chostau parhau â’u haddysg o ddydd i ddydd.
- Canolfannau Dysgu (Colegau, Ysgolion a sefydliadau eraill). Darganfyddwch beth y mae LCA yn ei olygu i’ch myfyrwyr a’ch rôl chi.





