Dechrau'n Deg

Beth yw Dechrau’n Deg?
Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw gwasanaeth Dechrau’n Deg a amcenir ar gyfer plant 0-3 oed a’u teuluoedd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae Dechrau’n Deg yn dod â nifer o asiantaethau at ei gilydd, boed yn fydwragedd, ymwelwyr iechyd, darparwyr gofal plant, proffesiynolwyr gofal cymdeithasol, cydlynwyr iaith a chwarae ac eraill gyda’u prif dasg yn un o sicrhau bod yr holl blant Dechrau’n Deg yn cael dechrau’n deg mewn bywyd drwy ddatblygu eu hiaith, eu sgiliau emosiynol, corfforol a chymdeithasol i sicrhau eu bod yn barod i ddechrau’r ysgol.
Lle mae’n gweithredu
Rhaglen wedi ei thargedu yw Dechrau’n Deg sy’n golygu ei bod ar gael yn unig mewn 5 ardal ddaearyddol ar Ynys Môn. Mae meini prawf cymhwyster côd post llym yn gymwys. Er mwyn darganfod a yw Dechrau’n Deg yn gweithredu yn eich ardal ffoniwch Dîm Dechrau’n Deg.
Beth sydd ar gael drwy Ddechrau’n Deg?
1. Gofal plant rhan-amser di-dâl o ansawdd ar gyfer rhai 2 - 3 oed yn un o’n lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg.
2. Cefnogaeth Ddwys Ymwelwyr Iechyd - Gall y gefnogaeth a gynigir gynnwys: Asesu datblygiad plant, a darparu cefnogaeth i fynd i’r afael ag angen, tylino babanod, maethiad babanod, iechyd meddwl mamolaeth, brechiadau, iechyd deintyddol, cyngor a chymorth gan Therapydd Iaith a Lleferydd.
3. Rhaglenni Rhiantu - A all gynnwys ystod o raglenni neu gefnogaeth unigol i gynorthwyo rhieni/gofalwyr gyda: Sut i chwarae gyda’ch plentyn, Sut i gynorthwyo eich plentyn i ddysgu, adeiladu hyder rhiant i drin ymddygiad plentyn.
4. Sgiliau Sylfaenol - mae cyrsiau Iaith a Chwarae (LAP) a Rhifedd a Chwarae (NAP) ar gael ym mhob un o’r 5 ardal i alluogi rhieni i gynorthwyo datblygiad ieithyddol/rhifedd eu plentyn drwy weithgareddau crefft a sesiynau chwarae.
Gellir cynnig y gefnogaeth uchod mewn cyd-destun teulu neu grŵp.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â thîm Dechrau’n Deg ar 01248 751910 neu e-bostiwchdechraundeg@ynysmon.gov.uk.





