Mae ar Gyngor Sir Ynys Môn eisiau i bob plentyn, unigolyn ifanc a dysgwr, lle bynnag y maent gyrraedd eu potensial a bod yn barod i chwarae eu rhan fel dinasyddion cyfrifol a phencampwyr cymunedol.
Yn y cyd-destun hwn, mae’r Cyngor yn dymuno sicrhau bod ysgolion modern yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern. Bydd hyn yn:
- arwain at safonau uwch
- ymateb i’r newidiadau sy’n digwydd yn y gymdeithas, mewn cymunedau ac yn yr economi
- gwella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn arbennig torri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyflawniad isel.
Mae’r Awdurdod hefyd yn dymuno bod yn rhagweithiol mewn sicrhau bod plant, lle bo modd, yn cael eu haddysgu o fewn eu dalgylch leol.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen cyfundrefn ysgol sy’n fwy effeithiol ac effeithlon – un sy’n sicrhau bod ysgolion wedi eu lleoli yn y lle cywir ac yn cael eu harwain gan brifathrawon ysbrydoledig sydd â digon o amser arweinyddiaeth i gwblhau’r dasg.
Yn 2012, beirniadwyd y Cyngor gan Estyn am beidio â symud yn ddigon cyflym gyda moderneiddio ysgolion. O ganlyniad, datblygwyd Strategaeth Foderneiddio Ysgolion sy’n gosod rhaglen 15 mlynedd ar gyfer moderneiddio’r ystâd o ysgolion ar Ynys Môn.