Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Addysg oedolion


Rydym yn cynnig dewis gwych o gyrsiau, yn amrywio o gyrsiau rhifedd a llythrennedd, i gyrsiau celf a gwaith coed – mewn gwirionedd, mae gennym ddetholiad eang ar gael fydd yn eich galluogi i ddysgu rhywbeth newydd neu i ddatblygu eich sgiliau. Rydym bob amser yn chwilio am syniadau newydd hefyd, felly os hoffech awgrymu ychydig syniadau am gyrsiau, cysylltwch â ni ac fe drafodwn y posibiliadau.

Darperir Addysg Gymunedol i Oedolion gan nifer o bartneriaid o dan faner Partneriaeth Addysg Gymunedol Gwynedd a Môn.

Wrth gynllunio ein rhaglen o gyrsiau, byddwn yn gofyn am farn nifer o grwpiau ac unigolion fel ein bod ni’n ymateb i ofynion ac anghenion pobl am wahanol gyrsiau. 

Mae nifer o bartneriaid yn gweithio gyda ni, ac rydym yn falch iawn o’r amrywiaeth o ddarparwyr. Os ydych chi’n cynnig cyrsiau ac yr hoffech ymuno â’r grŵp hwn o ddarparwyr i gael cefnogaeth werthfawr ac i ehangu eich cynulleidfa, cysylltwch â BethanHughesJones@ynysmon.llyw.cymru neu ffônio 01248 752091.