Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig


Ceir 40 ysgol gynradd, 5 ysgol uwchradd ac un ysgol arbennig ym Môn.

Gweler y ffeil PDF ar y dudalen hon am restr llawn o’r ysgolion.

Trefnwyd y rhestr cynradd yn ôl dalgylchoedd yr ysgolion uwchradd. Gan fod yr awdurdod o’r farn fod dilyniant mewn addysg o’r cynradd i’r uwchradd yn un tra phwysig, ac yn un y dylai rhieni fod yn ymwybodol ohono, gwelir fod pob ysgol uwchradd yn cael ei rhestru gyda’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo.

Ysgolion dyddiol yn derbyn bechgyn a merched fel ei gilydd yw holl ysgolion Môn. Mae’r ysgolion uwchradd i gyd yn ysgolion cyfun cymunedol 11 i 18 oed. Ysgolion cymunedol yw’r mwyafrif o’r ysgolion cynradd hefyd ond mae un ysgol sefydledig a ceir nifer fach yn dal perthynas â’r Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Babyddol, rhai ohonynt yn ysgolion gwirfoddol dan reolaeth yr awdurdod lleol, ac un yn ysgol wirfoddol sy’n derbyn cymorth gan yr awdurdod.

Dynodir statws pob ysgol yn y rhestr.

Ysgolion arbennig

Rydym yn gyfrifol am gynnal un ysgol arbennig - Canolfan Addysg y Bont, Llangefni.

Manylion cyswllt

Canolfan Addysg y Bont
Ffordd Cildwrn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7PG

ffôn: 01248 750151
ffacs: 01248 724056
ebost:  YSG7011@ynysmon.llyw.cymru

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.