Gwasanaethau'r Cyngor:

Cwricwlwm

Mae’r adran addysg yn ceisio sicrhau addysg o’r ansawdd orau posibl i holl ddisgyblion/myfyrwyr Môn, ble bynnag y bônt yn byw yn y Sir

Yn unol â’u hoedran, gallu a diddordeb/tueddfryd, er mwyn iddynt dyfu’n bersonoliaethau llawn, datblygu ac ymarfer eu holl ddoniau, a chymhwyso eu hunain i fod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog.

Mae’r Awdurdod Addysg wedi amlinellu polisïau cwricwlaidd sirol, cynradd ac uwchradd, ac mae copïau ar gael gan yr Awdurdod Addysg. Mae ysgolion yn gweithredu’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn llawn ac yn sicrhau cydbwysedd rhwng y pynciau.

Mae’r ysgolion uwchradd yn cyflwyno cwrs addysg i ddisgyblion 14-18 sydd wedi ei seilio ar y Cwricwlwm
Cenedlaethol, ac ar Lwybrau Dysgu 14-19. Trwy gynnig rhaglen effeithiol o addysg bersonol a chymdeithasol a
chyfleoedd i ddilyn rhaglenni cynalwedigaethol, neu gyrsiau galwedigaethol, mae’r ysgolion nid yn unig yn ategu a chryfhau cyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol ond hefyd yn sicrhau fod gan bobl ifanc y wybodaeth, y medrau a’r cymwyseddau y bydd eu hangen arnynt mewn cymdeithas dechnegol sydd yn rhan o economi Ewrop a’r Byd

Cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg

Adran Dysgu Gydol Oes
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY
Derbynfa: (01248) 752900
Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch: (01248) 752958 / 752980
Adran Bersonél Addysg: (01248) 752927
Ffacs: 01248 752999
Ebost:addysg@ynysmon.gov.uk
Lleoliad y Swyddfa Addysg

Diweddariad diwethaf: 13 Meh 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?