Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Uwchradd Gwynedd ac Ynys Môn


Gall Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Uwchradd Gwynedd ac Ynys Môn cynnig cymorth i chi gyda llawer o broblemau emosiynol neu faterion sy’n wynebu pobl ifanc megis:

  • tristwch
  • hyder
  • bwlio poen
  • galar
  • hapusrwydd
  • dryswch
  • chwerwedd
  • iselder
  • dicter
  • pryder
  • ofn
  • parch
  • Cyfle i siarad gyda rhywun annibynnol
  • Cymorth i ddelio gyda phroblemau emosiynol
  • Datblygu hunanymwybyddiaeth
  • Cymorth i ddeall a delio gydag emosiynau negyddol
  • Ffynhonnell hunan-rym a dyfeisgarwch personol

Er mwyn i bobl ifanc dderbyn cwnsela gan cwnselydd hyfforddedig mae’n angen iddyn nhw gael eu cyfeirio (bod person mewn awdurdod yn argymell bod y person ifanc yn derbyn cwnsela gan weithiwr proffesiynol) neu gallent hunangyfeirio eu hunain. Gweler isod am ffyrdd o gael eich cyfeirio

  • Mae modd i bobl ifanc fynd at aelod o staff yn yr ysgol a byddent yn eu cyfeirio at gysylltydd yr ysgol
  • gall person ifanc cael ei gyfeirio gan asiantaethau megis TAP (Tîm o Amgylch y Plant) neu swyddogion lles yr ysgol e.e. nyrs yr ysgol
  • gall y person ifanc mynd at unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy’n gweithio gyda disgyblion
  • gall berson ifanc hunan gyfeirio ei hun.

Cofiwch, os ydych yn teimlo fel hoffech chi siarad gydag oedolyn ynglŷn â’ch problemau mae modd trafod y rheini gyda pherson mewn awdurdod yn eich ysgol (megis athro/athrawes neu nyrs ysgol). Mae modd i chi wneud hyn yn gyfrinachol ac yn breifat heb orfod cael eich cyfeirio at y Gwasanaeth Cwnsela.

Mae pob mater a drafodir rhwng y cwnselydd a’r person ifanc yn hollol gyfrinachol. Dim ond gyda chaniatâd y person ifanc y gellir trafod materion y tu allan i’r sesiwn cwnsela. Nid oes rhaid cael caniatâd y rhieni er mwyn i berson ifanc dros 14 dderbyn cwnsela os ydy’r person ifanc yn bodloni cymhwysedd Gillick ar gyfer Cwnsela. Yr unig achosion lle mae’n rhaid datgelu gwybodaeth yw:

  • os yw’r person ifanc mewn perygl
  • os yw’r person ifanc wedi bygwth niweidio ei hunan neu unrhyw un  arall