Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth lles addysg


Darperir y gwasanaeth uchod gan yr Adran Addysg, ac fe’i hystyrir gan yr awdurdod, yn wasanaeth cynhaliol hanfodol, nid yn unig i ddisgyblion ond hefyd i ysgolion y sir.

Nod cyffredinol y gwasanaeth yw ceisio datrys unrhyw broblem, sy’n rhwystro plentyn rhag elwa o’r addysg sydd ar gael, drwy gynnig cyngor neu gymorth ymarferol.

Canolbwyntir ar achosion sy’n ymwneud â’r meysydd canlynol:

  • presenoldeb plant yn eu hysgolion
  • amddiffyn plant rhag camdriniaeth
  • plant ag anghenion arbennig
  • goruchwylio’r drefn sy’n ymwneud â chyflogi plant

Fel arfer cyfeirir achosion i’r gwasanaeth gan ysgolion, ond mae modd i blant a theuluoedd eu hunain, yn uniongyrchol, drwy gysylltu â’r Swyddog Lles Addysg yn y Swyddfa Addysg.