Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rhaglen datblygiad a hyfforddiant llywodraethwyr


Dyma le cewch wybodaeth ynglŷn â’n sesiynau hyfforddiant a datblygiad llywodraethwyr.

Mae’r rhain wedi eu paratoi ar gyfer llywodraethwyr newydd a phrofiadol, ac os bydd gofynion newydd yn dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn, byddwn yn trefnu sesiynau ychwanegol i gwrdd â’r anghenion hyn.

Mae croeso i lywodraethwyr fynychu gymaint o gyrsiau nad ydynt yn orfodol ag y dymunant, ond rydym yn eich annog i fynychu o leiaf un cwrs y flwyddyn.

Ers mis Medi 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Rheoliadau newydd sy’n nodi bod 4 cwrs yn statudol a bod rhaid eu cwblhau o fewn y cyfnod penodol neu bydd Llywodraethwyr yn wynebu cael eu tynnu oddi ar y corff llywodraethu dros dro/yn barhaol:

  • Anwythiad i Lywodraethwyr Newydd: mae’n rhaid i bob llywodraethwr newydd sydd wedi ei benodi ers mis Medi 2011 gwblhau’r hyfforddiant (oni bai eu bod wedi gwneud yn barod). Felly mae’n rhaid i’r holl lywodraethwyr newydd gwblhau’r hyfforddiant o fewn 12 mis o gael eu hethol (oni bai eu bod yn cael eu hail-ethol)
  • Rôl y Cadeirydd: Mae’n rhaid i bob Cadeirydd sydd wedi eu hethol o’r newydd ers mis Medi 2013 gwblhau’r hyfforddiant hwn o fewn 6 mis o gael eu penodi oni bai eu bod wedi eu hail-benodi ac wedi cwblhau’r sesiwn hyfforddiant yn y 2 flynedd ddiwethaf. Bydd hefyd disgwyl i bob Cadeirydd nad yw wedi cwblhau sesiwn hyfforddi yn y 2 flynedd ddiwethaf wneud hynny
  • Hyfforddiant Clercod: Pob clerc i gwblhau’r hyfforddiant o fewn 12 mis o gael eu penodi
  • Deall Data: Mae gofyn i bob llywodraethwr fynychu’r hyfforddiant hwn oni bai eu bod wedi mynychu cwrs ers mis Medi 2012. Mae’n rhaid i bob llywodraethwr fynychu’r cwrs hwn o fewn 12 mis o gael eu penodi. Bydd y cyrsiau hyn yn cael eu cynnal mewn ysgolion unigol dan gyfarwyddyd y pennaeth

*Mae’r cyrsiau hyfforddiant uchod ar gael drwy e-ddysgu (gweler isod).

Noder mai cyfrifoldeb y corff llywodraethu yw cadw cofnod diweddar a chyfredol o’r holl hyfforddiant a gwblheir gan aelodau (mae’r rhain yn cynnwys sesiynau wyneb i wyneb a hyfforddiant ar-lein).

Gweler ein sesiynau datblygu ag hyfforddi llywodraethwyr elenni.

Mae’r modiwlau e-ddysgu wedi eu datblygu i alluogi’r llywodraethwyr a’r clercod sy’n ei chael yn anodd i fynychu rhaglenni datblygiad llywodraethwyr ysgol sydd wedi eu trefnu gan yr Awdurdod Lleol ar gyfer yr hyfforddiant gorfodol. Nid bwriad yr e-ddysgu yw disodli’r hyfforddiant wyneb i wyneb, ond ei ategu.

Mae gan bob clerc a llywodraethwr bellach fynediad at yr hyfforddiant gorfodol, ac wrth gwblhau, mae’n rhaid argraffu’r dystysgrif a rhoi copi i’r clerc ar gyfer y cofnod. Darparwch eich cyfeiriad e-bost i’ch clerc. Bydd y clerc yna’n cysylltu â LlywodraethwyrGovernors@ynysmon.llyw.cymru i gael eich manylion mewngofnodi unigol.

Mae casgliad o gyrsiau di-dâl wedi eu datblygu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Anelir y cyrsiau hyn at eich helpu i ddatblygu sgiliau ychwanegol y gall eich cynorthwyo yn eich rôl fel llywodraethwr ysgol. Byddant yn eich helpu i fyfyrio a dysgu ar sail eich ysgol, waeth beth fo'r grŵp oedran neu'r ardal yng Nghymru. Mae’r cyrsiau hyn yn ychwanegol at unrhyw hyfforddiant gorfodol y byddwch yn ei wneud fel llywodraethwr ysgol.

Mae’r cyrsiau’n cynnwys:

  • Cyflwyniad i arweinyddiaeth ar gyfer llywodraethwyr ysgol – yn darparu cyflwyniad byr i faes arweinyddiaeth addysgol
  • Gwaith tîm: cyflwyniad i lywodraethwyr ysgol – yn cyflwyno pwysigrwydd timau a phartneriaeth mewn cyd-destun addysgol i lywodraethwyr
  • Addysg gynhwysol: gwybod beth yr ydym yn ei olygu – yn cyflwyno’r maes dadleuol o gynhwysiad addysgol i lywodraethwyr ysgol

Mae ein partneriaid yn GwE, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru, hefyd yn cynnig sesiynau “pwrpasol” ar gyfer cyrff llywodraethu unigol yn amodol ar gais drwy eu Hymgynghorydd Cefnogi Gwelliant.

  1. Derbyn yr Alwad – Estyn
  2. Sut i fod yn Gyfaill Beirniadol
  3. Defnydd Effeithiol o Ddata
  4. Craffu ar lyfrau – egluro’r broses
  5. Helfa Drysor Ysgol – beth a ddylech ddisgwyl ei weld pan fyddwch yn cerdded o amgylch yr ysgol?

Yn ogystal â hyn, os ydych angen gwybodaeth ar y cymorth sydd ar gael i gyrff llywodraethu ynglŷn â materion sy’n gysylltiedig â staffio, cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol yn Cyngor Sir Ynys Môn.