Polisi Iaith Gymraeg
Mae Awdurdod Addysg Môn yn gweithredu polisi dwyieithog trwy holl ysgolion y Sir.
Amcanion Cyffredinol
Yr amcan yw datblygu gallu disgyblion a myfyrwyr y Sir i fod yn hyderus ddwyieithog er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Mae holl sefydliadau addysg y Sir yn adlewyrchu ac atgyfnerthu’r polisi iaith yn eu gweinyddiad, eu bywyd cymdeithasol a’u trefn fugeilio yn ogystal ag yn eu darpariaeth academaidd.
Amcanion Penodol
Addysg Feithrin
Sicrhau, trwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law.
Babanod
Adeiladu ar y sylfeini a osodwyd i’r Gymraeg drwy addysg feithrin, cadarnhau a datblygu mamiaith y plentyn o
ddysgwyr Cymraeg ac ymestyn gafael y plentyn o gartref Cymraeg ar y Saesneg.
Iau
Cadarnhau a datblygu Cymraeg a Saesneg pob plentyn yn eu holl agweddau goddefol a gweithredol er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhwydd ac yn hyderus yn y ddwy iaith pan fo’n trosglwyddo i’r ysgol uwchradd. (Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer hwyrddyfodiaid).
Uwchradd
Cymraeg a Saesneg
Sicrhau fod pob disgybl yn yr ysgolion uwchradd yn astudio’r Gymraeg a’r Saesneg fel pynciau hyd at ddiwedd blwyddyn 11 a bod pob disgybl sydd â’r gallu angenrheidiol i wneud hynny yn sefyll arholiadau allanol priodol yn y ddau bwnc.
Cyfrwng Dysgu
Bydd pob disgybl yn defnyddio’r ddwy iaith yn gyfrwng dysgu i amrywiol raddau yn unol â gofynion pob unigolyn er mwyn sicrhau dilyniant i addysg ddwyieithog yr ysgolion cynradd.
Sicrhau fod modd i ddisgyblion sefyll arholiadau allanol trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg neu’n ddwyieithog yn ôl natur ieithyddol y dysgu yn y gwahanol bynciau. (Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer hwyrddyfodiaid).
Addysg Arbennig
Yn achos disgyblion ag anawsterau dysgu dwys rhoddir hawl i Bennaeth, mewn ymgynghoriad â’r Awdurdod Lleol, roi ystyriaeth unigol i bob achos. Gellir gweld y polisi cyflawn yn y Swyddfa Addysg a’r Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac mae cyfeiriadau at bolisïau ysgolion unigol ar gael yn Llawlyfr yr Ysgol.




