Gwasanaethau'r Cyngor:

Prydau ysgol

Mae’r awdurdod yn awyddus i barhau’r gwasanaeth prydau ysgol a’r nod yw darparu i ddisgyblion bryd canol dydd sy’n atyniadol, yn faethlon ac yn rhesymol ei bris.

Mae’r awr ginio hefyd yn achlysur cymdeithasol ac mae iddi arwyddocâd addysgol.

Mae bwydlenni gwasanaeth prydau bwyd Môn yn seiliedig ar argymhellion maeth adroddiadau fel NACNE (National Advisory Committee Report on Nutrition Education), ond ar yr un pryd yn cynnig y bwydydd poblogaidd. Mae amrywiaeth ar gael yn y fwydlen, rheolaeth ar y defnydd o’r bwydydd poblogaidd a dewis o fwydydd “iach” ar gael pob amser.

Mae bwydlen dau gwrs syml ar gael am bris sefydlog yn yr ysgolion cynradd. Mewn ysgolion uwchradd cynigir dewis o bryd dau gwrs, neu fyrbryd, cwrs cyntaf, neu bwdin yn unig.

Mae cinio ysgol ar gael i bob disgybl ar wahân i ddisgyblion meithrin rhan-amser.

Disgyblion sy’n dod a brechdanau

Gwenir darpariaeth yn yr ysgolion ar gyfer plant sy’n dymuno dod a’u bwyd eu hunain. Darperir cwpan, plât a dŵr ar eu cyfer.

Llefrith

Rhoddir traean peint o lefrith y dydd am ddim i

  • disgyblion dan 7 oed
  • disgyblion Ysgolion Arbennig
  • Unrhyw ddisgybl mewn ysgol gynradd sydd angen llefrith ar dir meddygol pan fo tystysgrif wedi’i chyflwyno ar ei ran gan y Swyddog Meddygol Ysgolion.

Cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg

Y Swyddfa Addysg
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY
Derbynfa: (01248) 752900
Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch: (01248) 752958 / 752980
Adran Bersonél Addysg: (01248) 752927
Ffacs: 01248 752999
Ebost:addysg@ynysmon.gov.uk
Lleoliad y Swyddfa Addysg

Diweddariad diwethaf: 30 Tach 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?