Gwasanaethau'r Cyngor:

Prydau ysgol am ddim

Mae prydau am ddim ar gael i blant o deuluoedd sy’n derbyn taliadau Cymorth Incwm neu Lwfans Chwilio am Waith (yn seiliedig ar incwm) oddi wrth yr Adran Nawdd Cymdeithasol, Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Treth Plentyn (yn unig) pan fo’r incwm yn llai na £16,190 y flwyddyn.

Nid yw prydau am ddim ar gael i blant o deuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Gweithiol.

Gellir cael ffurflen i wneud cais am ginio am ddim o’r Swyddfa Addysg neu’r ysgol. Wedi ei chwblhau, dylid anfon y
ffurflen i’r Swyddfa Addysg, ynghyd â chadarnhad o’r Adran Nawdd Cymdeithasol o’r hawl i un o’r budd-daliadau hyn neu’r dyfarniad Credyd Treth Plentyn. Heb y cadarnhad ni ellir prosesu’r cais. Mae hyn yn berthnasol hefyd i
ddisgyblion sy’n mynychu Ysgolion Arbennig

Cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg

Adran Dysgu Gydol Oes
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY
Derbynfa: (01248) 752900
Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch: (01248) 752958 / 752980
Adran Bersonél Addysg: (01248) 752927
Ffacs: 01248 752999
Ebost:addysg@ynysmon.gov.uk
Lleoliad y Swyddfa Addysg

Diweddariad diwethaf: 30 Tach 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?