Ysgol - grantiau a tocynnau gwisg ysgol
Gweithredir cynllun gan yr Awdurdod Addysg Lleol sy’n darparu grant tuag at gost prynu dillad ac esgidiau i ddisgyblion Ysgolion Uwchradd o oedran ysgol gorfodol.
Cyfyngir y grant i rieni disgyblion sy’n derbyn taliadau Cymorth Incwm neu Lwfans Chwilio am Waith (seiliedig ar incwm) oddi wrth yr Adran Nawdd Cymdeithasol, Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Treth Plant (yn unig) pan fo’r incwm yn llai na £16,190 y flwyddyn. Yn ogystal ystyrir ceisiadau oddi wrth rieni gweddw. Nid yw’r grant ar gael in deuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Gweithiol.
Ar hyn o bryd, mae’r grant, sydd ar ffurf talebau, yn werth £105.00 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 a £40 i ddisgyblion
blwyddyn 8 i 11, a gall fod yn daladwy dros fwy nag un plentyn. Gellir ystyried ceisiadau mewn amgylchiadau
eithriadol oddi wrth rieni plant ysgol gynradd lle bo angen arbennig. Mae manylion pellach a ffurflenni cais i’w cael o’r Swyddfa Addysg a bydd cymorth i gwblhau’r ffurflen os bydd angen.





