Ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig
Ceir 50 ysgol gynradd, 5 ysgol uwchradd ac un ysgol arbennig ym Môn.
Gweler y ffeil PDF isod am restr llawn o’r ysgolion.
Trefnwyd y rhestr yn ôl dalgylchoedd yr ysgolion uwchradd. Gan fod yr Awdurdod o’r farn fod dilyniant mewn addysg o’r cynradd i’r uwchradd yn un tra phwysig, ac yn un y dylai rhieni fod yn ymwybodol ohono, gwelir fod pob ysgol uwchradd yn cael ei rhestru gyda’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo.
Ysgolion dyddiol yn derbyn bechgyn a merched fel ei gilydd yw holl ysgolion Môn. Mae’r ysgolion uwchradd i gyd yn ysgolion cyfun cymunedol 11-18 oed. Ysgolion cymunedol yw’r mwyafrif o’r ysgolion cynradd hefyd ond mae un ysgol sefydledig a ceir nifer fach yn dal perthynas â’r Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Babyddol, rhai ohonynt yn ysgolion gwirfoddol dan reolaeth yr Awdurdod Lleol, ac un yn ysgol wirfoddol sy’n derbyn cymorth gan yr Awdurdod.
Dynodir statws pob ysgol yn y rhestr.





