Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ynglŷn â Anghenion Dysgu Ychwanegol


Mae pob plentyn a pherson ifanc yn unigryw, ac mae ar bob un angen cefnogaeth i ddatblygu’n unigolyn effeithiol.

Mae rhai plant yn dysgu’n haws nag eraill. Rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth briodol fel eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.

Os yw plentyn yn cael anhawster i ddysgu, efallai bod ganddo/ganddi anghenion addysgol arbennig (AAA). Os credwch fod gan eich plentyn chi anawsterau, mae’n bwysig eich bod yn rhannu’ch pryderon gyda’r gweithwyr proffesiynol priodol.

Os nad yw eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol, gallwch siarad â’r:

  • ymwelydd iechyd
  • meddyg
  • Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar (yn y cylch chwarae neu’r feithrinfa)

Os yw eich plentyn yn yr ysgol, gallwch siarad â’r:

  • athro/athrawes dosbarth
  • pennaeth yr ysgol
  • neu gofynwch am y Cyd gysylltydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO)

Os ydych yn ei chael yn anodd siarad gyda’r ysgol neu bobl eraill sy’n gweithio efo’ch plentyn am unrhyw reswm, yna gallwch gysylltu gyda SNAP Cymru am gefnogaeth a chyngor diduedd drwy ffonio 01248 674 999.

Anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad: beth yw’r newidiadau?

Mae’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc o dan 25 oed sydd angen help ychwanegol er mwyn iddynt wneud cynnydd yn unol â’u gallu yn cael ei adolygu.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd bellach yn cyd-weithio i weithredu un Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADYaCh) gyffredin ar gyfer y ddau awdurdod.

Gwefan Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad