Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Prydau ysgol


Prydau ysgol

Mae’r gwasanaeth prydau ysgol, a weithredir gan Chartwells, yn cael ei ddarparu yn ystod amser cinio ym mhob ysgol, gydag egwyl ginio’n cael ei darparu mewn ysgolion uwchradd a brecwast ym mhob ysgol gynradd. Mae pryd poeth canol dydd ar gael i bob disgybl ysgol gynradd yn ddi-dâl, gyda phob disgybl o’r derbyn i flwyddyn 6 yn gymwys.

Mae Chartwells yn darparu bwydlen sy’n cydymffurfio â chydbwysedd maeth ar gyfer pob disgybl ac mae pob bwydlen yn cwrdd â’r Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, a gymeradwyir gan Reolwr Bwyd Mewn Ysgolion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

  • Mae ceginau ein hysgolion yn dilyn cylch bwydlen 3 wythnos a ddylunnir gyda help CLlLC i greu prydau iach, cyffrous ac i annog ffyrdd iach o fyw. Diweddarir y bwydlenni ddwywaith y flwyddyn i sicrhau bwydlen dymhorol a phriodol ar gyfer cyfnodau’r gaeaf a’r haf.
  • Mae bwydlen dau gwrs ar gael mewn ysgolion cynradd. Mae’r prif bryd yn cynnwys prif bryd poeth y diwrnod, opsiwn llysieuol, tatws trwy’u crwyn a llenwadau, ac mae pasta a saws tomato cartref ar gael.
  • Mae dŵr, salad, bara wedi’i bobi’n ffres, iogwrt a ffrwyth ffres ar gael bob dydd.

Y pris yw £2.60 fesul pryd mewn ysgolion uwchradd. Yn Ynys Môn rydym yn gweithredu system ddi-arian parod. ParentPay yw ein system ddewisol i gasglu taliadau prydau ysgol lle gallwch dalu am brydau, gwirio eich balans a mwy.

Mae’r cynnig bwyd ysgolion uwchradd yn cynnwys prif bryd poeth, opsiynau llysieuol a phrydau cyflym ar gyfer ein pobl ifanc prysur. Mae ein cynnig yn parhau i gydymffurfio â maeth ac yn briodol ar gyfer y bywydau prysur y mae ein myfyrwyr yn eu byw.

Efallai y bydd rhai o’n disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Gwiriwch hyn gyda’ch ysgol neu ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim.

Buddion bwyta pryd ysgol

Gall y bwyd a’r ddiod a ddarperir mewn ysgolion wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at roi deiet cytbwys ac iach i blant a phobl ifanc a’u hannog i ddatblygu arferion bwyta da. Y nod yw cyflawni dull gweithredu ysgol gyfan tuag at fwyta’n iach ac annog agweddau iach tuag at fwyd a diod o oed ifanc. Mae hyn yn unol â’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm i Gymru newydd.

Mae buddion eraill o gael pryd ysgol yn cynnwys:

  • Arbed amser yn y bore yn peidio â gorfod paratoi cinio, a hefyd nid oes angen poeni am gadw’r bwyd yn ffres ac yn hylan tan amser cinio.
  • Prydau ysgol yn cynnig llysiau, salad a ffrwythau ffres a fydd yn cyfrannu at ‘5 y dydd’ eich plentyn.
  • Eistedd i lawr a bwyta gyda’i gilydd fel bwrdd yn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a moesau bwrdd; anogir disgyblion hefyd i roi cynnig ar fwydydd newydd.
  • Rydym yn cynnal dyddiau thema rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ysgol yn ogystal â chinio Nadolig dau gwrs i ddathlu ym mis Rhagfyr.
  • Mae plant sy’n bwyta deiet cytbwys ac iach yn fwy tebygol o fod yn effro yn y dosbarth a bod â mwy o egni i fwynhau ffordd o fyw actif.

Disgyblion yn dod â brechdanau

Gwneir darpariaeth ar eu cyfer yn yr ysgol. Darperir dŵr tap ffres, cyfleusterau megis byrddau a chadeiriau a gwasanaethau clirio a glanhau i ddisgyblion sy’n dewis dod â’u bwyd eu hunain yn yr un modd â gwasanaeth arferol. Anogir ysgolion i adael i’r disgyblion hynny sy’n dod â phecyn bwyd eistedd gyda’r rhai sy’n cael prydau ysgol.

Prydau ysgol am ddim (PYD)

Mae prydau ysgol am ddim (PYD) ar gyfer disgyblion uwchradd yn dibynnu ar incwm eich aelwyd ac a ydych yn derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych yn cwrdd â’r meini prawf cymhwystra, mae’n bwysig iawn eich bod yn hawlio am hyn. Ni fydd y pryd y mae eich plentyn yn ei dderbyn yn wahanol o gwbl a gall olygu eich bod yn gymwys i dderbyn unrhyw gymorth sydd ar gael yn ystod gwyliau ysgol neu os bydd yr ysgol yn gorfod cau.

  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
  •  Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn derbyn Credyd Treth Gwaith a bod gennych incwm blynyddol o ddim mwy na £16,190 cyn talu treth)
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith estynedig – y swm a delir i chi am 4 wythnos pan fyddwch yn gorffen bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol – rhaid i’r aelwyd ennill incwm o ddim mwy na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys yr incwm rydych chi’n ei dderbyn drwy fudd-daliadau.

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am brydau ysgol am ddim gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Cynllun Brecwast am Ddim

Mae 39 o ysgolion cynradd ar hyd yr ynys yn gweithredu brecwast am ddim ar hyn o bryd. Mae’r fenter brecwast yn rhoi cyfle i blant mewn ysgolion cynradd dderbyn brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd.

Cydnabyddir brecwast fel pryd pwysicaf y dydd ac mae tystiolaeth yn dangos bod brecwast iach yn gysylltiedig â gwell iechyd, canolbwyntio ac ymddygiad i gyflawni eu potensial addysgol llawn yn ein hysgolion.

Mae’r rhan fwyaf o glybiau brecwast yn agor am 8:05am ac mae brecwast am ddim ar gael o 8:25am. Dylai’r dewis o fwyd sydd ar gael gydymffurfio â’r Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 a chynnwys y 4 grŵp bwyd.

  1. Llefrith a chynnyrch llefrith
  2. Grawnfwyd – heb ei orchuddio â siwgr
  3. Ffrwyth
  4. Bara
  5. Sudd ffrwythau neu lefrith

(Noder, ar amseroedd efallai y bydd ychydig o amrywiaeth yn ein bwydlen brecwast).

Noder y codir tâl o £1.25 y plentyn am y clwb gofal cyn-brecwast 20 munud.

Llefrith

Darperir traean peint o lefrith bob dydd yn ddi-dâl:

  • ar gyfer disgyblion dan 7 oed
  • i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig
  • i unrhyw blentyn o oed cynradd sydd angen llefrith ar sail feddygol ac y mae tystysgrif feddygol wedi’i chyflwyno ar eu cyfer gan y swyddog meddygol yr ysgol.

Bwydlen ysgolion gynradd ac uwchradd

Gweler ffurflenni PDF bwydlenni Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Cyngor Sir Ynys Môn. Oherwydd natur y PDF isod nid yw’n hollol hygyrch i ddefnyddwyr darllenwr sgrin.