Beth yw Cynllun Ysgolion Iach Môn?
Mae Cynllun Ysgolion Iach Ynys Môn yn cefnogi ysgolion yr ynys i gyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles eu disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.
Mae wedi ei selio ar y bartneriaeth rhwng addysg ac iechyd ac yn cael ei gefnogi ac ariannu gan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae i’r cynllun 9 amcan ynghyd â digwyddiad hybu iechyd blynyddol. Mae ysgolion yn cymryd oddeutu 3 blynedd i gwblhau’r amcanion, ac yn dewis 3 y flwyddyn.




