Gwasanaethau'r Cyngor:

Ysgolion - mynediad

Mae ceisio am le mewn ysgol yn gam mawr i chi a’ch plentyn, a bydd gennych lawer o gwestiynau am sut mae’r broses yn gweithio. Dylinir y tudalennau hyn er mwyn eich helpu gyda rhai o’r ymholiadau hyn.

Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r Rheoliadau cysylltiedig yn sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer derbyniadau i ysgolion. Bwriad y trefniadau ydi :

  • Sicrhau trefniadau derbyn lleol sy’n eglur, yn wrthrychol ac yn rhoi cyfle teg i bob plentyn gael lle boddhaol mewn ysgol;
  • Rhoi gwybodaeth lawn i alluogi rhieni i wneud dewis goleuedig o safbwynt dewis ysgol;
  • Sicrhau cyd-gordio trefniadau derbyn lleol a sicrhau trefniadau sydd yn hawdd i’w deall, gyda’r lleiafswm o fiwrocratiaeth a hyd y bo modd yn sicrhau cwrdd â dewis rhieni o ysgol;
  • Sicrhau hawl statudol ac effeithiol i apelio os na chaiff rhieni eu bodloni.

Yn unol â gofynion Deddf 1998 (fel y’i diwygiwyd gan adran 40 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006) mae’r Cynulliad wedi cyhoeddi Y Cod Derbyn i Ysgolion sydd yn rhoi canllawiau i awdurdodau derbyn ynglyn â chyflawni swyddogaeth derbyn o fis Medi 2010 ymlaen. Mae Polisi Mynediad Ysgolion Cyngor Sir Ynys Môn yn seiliedig ar y Cod yma. Gellir cael copi o’r Cod o’r Adran Rheoli ac Effeithiolrwydd Ysgolion, Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Mae Polisi Mynediad Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Cyngor Sir Ynys Môn yn cydymffurfio â gofynion Deddf Camwahaniaethu Rhywiol 1975 a Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 ac nid yw yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr ar sail rhyw, hil, lliw, cenedligrwydd na tharddiad cenedlaethol neu ethnig.

Bydd ceisiadau am fynediad ar ran disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, ond heb ddatganiad, yn cael eu hystyried ar yr un sail ag ymgeiswyr eraill.

Cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg

Y Swyddfa Addysg
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY
Derbynfa: (01248) 752900
Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch: (01248) 752958 / 752980
Adran Bersonél Addysg: (01248) 752927
Ffacs: 01248 752999
Ebost:addysg@ynysmon.gov.uk
Lleoliad y Swyddfa Addysg

Diweddariad diwethaf: 28 Maw 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?