Beth yw'r amserlen ar gyfer cyflwyno ceisiadau am fynediad i ysgolion uwchradd ar Ynys Môn?
Ym mis Tachwedd bob blwyddyn cysylltir â rhieni plant fydd o’r oedran priodol i drosglwyddo i ysgol uwchradd yn y mis Medi canlynol yn eu gwahodd i gyflwyno cais am fynediad i’r ysgol y maent yn byw yn ei dalgylch neu i nodi eu dymuniad i gyflwyno cais am fynediad i ysgol uwchradd arall ym Môn.
Yn unol â gofynion y Cod Ymarfer, sydd yn nodi y dylid rhoi o leiaf 6 wythnos i rieni i gyflwyno cais am fynediad i ysgol, bydd yn ofynnol i rieni sicrhau fod eu cais am fynediad i ysgol uwchradd yn cael ei gyflwyno i bennaeth ysgol gynradd y plentyn cyn diwedd tymor yr hydref neu i’r Swyddfa Addysg Llangefni cyn diwrnod olaf mis Rhagfyr.
Cyn diwrnod olaf mis Chwefror bydd pob rhiant sydd wedi cyflwyno cais am fynediad wedi cael gwybod os ydi eu
plentyn wedi cael ei dderbyn i’r ysgol o’u dewis neu beidio. Bydd y rhieni nad yw eu plant wedi ei derbyn i’r ysgol o’u dewis yn cael gwahoddiad i ddewis ysgol arall os nad ydynt eisoes wedi nodi ail ddewis ac yn cael eu hysbysu o’u hawliau i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod derbyn.




