Beth yw'r amserlen cyflyno cais am fynediad i ysgol gynradd yn Ynys Môn
Ym mis Ionawr cysylltir â rhieni plant fydd o’r oedran priodol i drosglwyddo i ysgol gynradd yn y mis Medi canlynol yn eu gwahodd i gyflwyno cais am fynediad i ysgol gynradd ym Môn.
Yn unol â’r Cod Derbyn i Ysgolion, sydd yn nodi y dylid rhoi o leiaf 6 wythnos i rieni gyflwyno cais am fynediad i ysgol, bydd yn ofynnol i rieni sicrhau fod eu cais am fynediad i ysgol yn cael ei gyflwyno i bennaeth yr ysgol o’u dewis cyntaf cyn 1af Mawrth.
Cyn diwrnod olaf mis Ebrill bydd pob rhiant sydd wedi cyflwyno cais am fynediad wedi cael gwybod os ydi eu plentyn wedi cael ei dderbyn i’r ysgol o’u dewis neu beidio. Bydd y rhieni nad yw eu plant wedi eu derbyn i’r ysgol o’u dewis yn cael gwahoddiad i ddewis ysgol arall os nad ydynt eisoes wedi nodi ail ddewis ac yn cael eu hysbysu o’u hawliau i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod derbyn.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd yr angen i gyflwyno cais am fynediad i ysgolion Cynradd nac Uwchradd, hyd yn oed ar ran disgyblion sydd yn byw yn nalgylch yr ysgol y maent am ei mynychu, gan y bydd y plant y mae eu rhieni wedi mynegi dewis yn cael blaenoriaeth dros y rhai na fydd wedi mynegi dewis pan gynigir lle mewn ysgol.
Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried hyd nes y bydd lleoedd wedi eu gosod i’r disgyblion sydd wedi cyflwyno eu ceisiadau erbyn y dyddiad cau




