Gwasanaethau'r Cyngor:

Meini prawf mynediad a chriteria gordanysgrifio

Cynradd

Yn arferol derbynnir plant i Ysgolion Cynradd ym Môn unwaith y flwyddyn, yn y Medi yn dilyn eu penblwydd yn 4 oed.

Yr unig eithriadau i fynediad yn y Medi yn dilyn penblwydd yn 4 oed fydd mewn achosion arbennig lle bydd yr
Awdurdod o’r farn y byddai peidio caniatáu mynediad cynnar yn niweidiol i ddatblygiad addysgol a/neu gymdeithasol y plentyn yng nghyd-destun gofynion Deddf Plant 1989 neu Rhestr Amddiffyn Plant.

Uwchradd

Yn arferol derbynnir plant i Ysgolion Uwchradd ym Môn unwaith y flwyddyn, yn y Medi yn dilyn eu penblwydd yn 11
oed. Yr unig eithriadau i fynediad yn y Medi yn dilyn penblwydd yn 11 oed fydd mewn achosion arbennig lle bydd yr
Awdurdod o’r farn y byddai peidio trosglwyddo flwyddyn yn gynt neu beidio aros blwyddyn ychwanegol yn y sector
cynradd yn niweidiol i gynnydd addysgol neu gymdeithasol y plentyn.

Cynradd ac uwchradd

Mae Deddf 1998 yn cadarnhau y gofyn i sicrhau fod Rhif Mynediad i bob ysgol. Mae gan bob ysgol Rif Mynediad ar
gyfer pob grwˆ p oed perthnasol, h.y. ar gyfer yr oed y derbynnir plant i’r ysgol yn arferol. Cyn pennu neu newid rhif
mynediad unrhyw ysgol bydd yr Awdurdod derbyn yn ymgynghori â’r llywodraethwyr perthnasol a, drwy’r Fforwm
Mynediad, gyda’r partneriaid. Mae’r atodiadau i’r ddogfen yma yn dangos Rhif Mynediad pob ysgol gynradd ac
uwchradd ym Môn.

Unwaith y bydd Rhif Mynediad wedi ei bennu i ysgol bydd y rhif hwnnw yn cael ei barchu a dim ond dan amgylchiadau eithriadol y bydd disgyblion yn cael eu derbyn uwchlaw’r rhif mynediad, a hynny ddim ond os bydd yr Awdurdod yn fodlon na fyddai mynediad mewn amgylchiadau o’r fath yn rhagfarnu addysg effeithiol a defnydd effeithiol o adnoddau.

Bydd pob awdurdod derbyn yn adolygu rhifau mynediad yn barhaus ac os bydd yr awdurdod am amrywio’r rhif
mynediad bydd yn ymgynghori ynglyˆn â hyn.

Os bydd nifer y ceisiadau am fynediad a gyflwynir ar gyfer unrhyw ysgol yn is na Rhif Mynediad yr ysgol bydd yr
Awdurdod yn caniatáu mynediad i bob disgybl fydd wedi gwneud cais.

Os bydd nifer y ceisiadau am fynediad i unrhyw ysgol yn uwch na Rhif Mynediad yr ysgol bydd yr Awdurdod yn dewis pa ddisgyblion i’w derbyn hyd at y Rhif Mynediad yn unol â’r meini prawf a ganlyn pan fydd yr Awdurdod yn fodlon fod y rhesymau a roddir gan y rhieni dros fynegi eu dymuniad i’w plentyn gael ei addysg yn yr ysgol dan sylw yn cydfynd ag un o’r meini prawf isod sydd wedi eu rhestru yn nhrefn blaenoriaeth.

Ysgolion Uwchradd

  • Plant mewn gofal.
  • Disgyblion yr argymhellir eu derbyn i’r ysgol dan sylw oherwydd anghenion meddygol neu seicolegol. Bydd yn rhaid
  • i dderbyniadau o’r fath fod wedi eu cadarnhau gan gynghorwyr proffesiynol yr Awdurdod megis y Prif Seicolegydd
  • Addysgol neu’r Prif Swyddog Meddygol.
  • Plant sy’n byw o fewn dalgylch diffiniedig yr ysgol.
  • Plant â brodyr neu chwiorydd eisoes yn yr ysgol.
  • Plant nad yw eu cartref o fewn dalgylch yr ysgol ond a fynychodd ysgol gynradd o fewn dalgylch yr ysgol uwchradd.

Pan fydd angen dewis rhwng mwy nag un ymgeisydd o fewn unrhyw un o’r meini prawf uchod, rhoddir blaenoriaeth i’r ymgeiswyr sydd a’u cartref agosaf at yr ysgol ar hyd y ffordd gerdded fyrraf briodol.

Os bydd cais am fynediad yn cael ei wrthod bydd yr Awdurdod Derbyn, yn unol â’r polisi hwn, yn gwneud pob ymdrech i egluro’i benderfyniad yn ysgrifenedig ac yn rhoi dewisiadau eraill i’r rhieni i’w galluogi i sicrhau addysg addas i’w plentyn.

Ysgolion cynradd

Ysgolion Cymunedol a Gwirfoddol dan Reolaeth

  • Plant mewn gofal
  • Disgyblion yr argymhellir eu derbyn i’r ysgol dan sylw oherwydd anghenion meddygol neu seicolegol. Bydd yn rhaid i dderbyniadau o’r fath fod wedi eu cadarnhau gan gynghorwyr proffesiynol yr Awdurdod megis y Prif Seicolegydd Addysgol neu’r Prif Swyddog Meddygol.
  • Plant sy’n byw o fewn dalgylch diffiniedig yr ysgol.
  • Plant â brodyr neu chwiorydd eisoes yn yr ysgol.

Pan fydd angen dewis rhwng mwy nag un ymgeisydd o fewn unrhyw un o’r meini prawf uchod, rhoddir blaenoriaeth i’r ymgeiswyr sydd a’u cartref agosaf at yr ysgol ar hyd y ffordd gerdded addas fyrraf.
Os bydd cais am fynediad yn cael ei wrthod bydd yr Awdurdod Derbyn, yn unol â’r polisi hwn, yn gwneud pob ymdrech i egluro’i benderfyniad yn ysgrifenedig ac yn rhoi dewisiadau eraill i’r rhieni i’w galluogi i sicrhau addysg addas i’w plentyn.

Ysgol Babyddol Santes Fair, Caergybi

Ysgol Babyddol dan Gymorth Gwirfoddol yw Ysgol Babyddol y Santes Fair, Caergybi ac, fel y cyfryw, yn unol â
pharagraff 4.19 Côd Ymarfer y Swyddfa Gymreig ar Fynediadau Ysgol a’r ddeddfwriaeth berthnasol, mae’n rhoi blaenoriaeth i aelodau o’r ffydd Babyddol. Os enwir yr ysgol mewn datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae gan y Corff Llywodraethu ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol. Lle mae nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael bydd y Corff Llywodraethu’n cymhwyso’r meini prawf gordanysgrifio a ganlyn :

  • Plant Pabyddol a fedyddiwyd sydd mewn gofal cyhoeddus (plant y gofelir amdanynt). Gofynnir am brawf o ddyddiad
  • geni ar ffurf Tystysgrif Geni a Phrawf o Fedyddio ar ffurf Tystysgrif Bedydd.
  • Plant Pabyddol a fedyddiwyd o fewn y plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu. Mae prawf o ddyddiad geni ar ffurf
  • Tystysgrif Geni a phrawf o Fedyddio ar ffurf Tystysgrif Bedydd yn ofynnol
  • Plant Pabyddol a fedyddiwyd y gall yr ysgol hon gyfarfod yn briodol â’u hanghenion meddygol, addysgol neu fugeiliol.
  • Plant sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol ar adeg y mynediad tebygol.
  • Plant mewn gofal cyhoeddus (plant y gofelir amdanynt) nad ydynt wedi’u bedyddio’n Babyddion.
  • Plant Enwadau Cristnogol eraill. Byddai’n angenrheidiol i rieni o’r fath fod wedi mynegi dymuniad gwirioneddol iddynt gael eu haddysgu mewn Ysgol Babyddol a bod yn llwyr gefnogol o’i hethos Babyddol.

Byddai angen cefnogi ceisiadau o’r fath, yn ysgrifenedig, drwy brawf o ddyddiad geni ar ffurf Tystysgrif Geni a byddai prawf o Fedydd ar ffurf Tystysgrif Bedydd yn ofynnol.

  • Plant o ffydd arall y mae eu rhieni’n arddangos ymroddiad i ethos yr ysgol.
  • Plant y mae’r AALL wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol.

Pe digwyddai unrhyw ordanysgrifio yn nifer y ceisiadau a wnaed o dan unrhywun o’r dosbarthiadau uchod, yna bydd y Pwyllgor Derbyniadau yn cynnig lleoedd yn gyntaf i blant sy’n byw agosaf at yr ysgol yn ôl pellter cerdded byrraf gan ddefnyddio’r ffordd fawr gyhoeddus.

Os bydd cais am fynediad wedi ei wrthod gan y Corff Llywodraethu, gall rhieni apelio i Banel Apeliadau Annibynnol. Mae’n rhaid i’r apêl hon gael ei hanfon yn ysgrifenedig at glerc y Llywodraethwyr yn yr ysgol o fewn 14 diwrnod (10 diwrnod gwaith) o’r gwrthod. Mae’n rhaid i’r Rhieni roi rhesymau dros apelio’n ysgrifenedig ac mae penderfyniad y Panel Apêl yn ywrwymol ar y llywodraethwyr.

Ysgol Sefydledig Caergeiliog

Uned Feithrin

Derbynnir plant i’r Uned Feithrin ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu 3ydd penblwydd.

Mae’r holl dderbyniadau yn ddibynnol ar faint o leoedd sydd ar gael.

Gofynnir i rieni gwblhau ‘Ffurflen Gais - Cofrestru Disgybl’ ar gyfer eu plentyn. Hefyd, gwahoddir darpar rieni i gysylltu â’r Ysgol i wneud apwyntiad gyda’r Cofrestrydd a fydd yn trefnu iddynt gael gweld yr ysgol ac i drafod polisïau’r ysgol.

Bydd rhieni yn cael gwybod drwy lythyr os oes lle yn cael ei gynnig i’w eu plentyn ai peidio.

Os bydd gordanysgrifio bydd y Llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i blant fel a ganlyn :

  • Plant sydd â brawd a/neu chwaer eisoes yn yr ysgol.
  • Plant sydd a’u cartref agosaf i’r ysgol.
  • Mynediad drwy gludiant cyhoeddus.

Mewn achosion lle nad oes lleoedd ar gael, gofynnir i rieni roi gwybod i’r ysgol os ydynt yn dymuno rhoi enw eu plentyn ar restr aros yr Uned.

Adran Babanod ac Iau

Gellir derbyn plant i’r ysgol yn llawn amser ar gyfer Addysg Orfodol ddechrau’r tymor yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd.

Mae pob Mynediad yn destun argaeledd lleoedd.

Rhoddir gwybod i rieni yn ysgrifenedig a ellir cynnig lle ai peidio i’w plentyn yn yr ysgol.

Yn unol â Deddf Addysg 1998, mae gan yn yr ysgol rif Derbyn. Os bydd nifer y ceisiadau am fynediad yn llai na’r rhif mynediad, bydd yr Ysgol yn derbyn pob disgybl sydd wedi gwneud cais am fynediad.

Os bydd nifer y ceisiadau’n fwy na Rhif Mynediad yr Ysgol, derbynnir disgyblion hyd at y rhif mynediad yn unol â’r meini prawf a ganlyn :

  • Disgyblion a argymhellir i’w lleoli yn yr ysgol am resymau meddygol neu gymdeithasol eithriadol. Mewn achosion o’r fath, gofynnid am gadarnhad gan ymgynghorwyr proffesiynol.
  • Cysylltiadau brodyr a chwiorydd.
  • Pellter o’r Ysgol, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i ddisgyblion y mae eu cartref agosaf at yr Ysgol ar y llwybr agosaf o’r cartref i’r ysgol.
  • Mynediant drwy gludiant cyhoeddus.

Lle gwrthodwyd mynediad i ddisgybl, bydd yr Ysgol yn esbonio’r penderfyniad hwn yn ysgrifenedig a bydd yn trafod yr holl ddewisiadau sydd ar gael i rieni.

Cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg

Adran Dysgu Gydol Oes
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY
Derbynfa: (01248) 752900
Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch: (01248) 752958 / 752980
Adran Bersonél Addysg: (01248) 752927
Ffacs: 01248 752999
Ebost:addysg@ynysmon.gov.uk
Lleoliad y Swyddfa Addysg

Diweddariad diwethaf: 28 Maw 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?