Gwasanaethau'r Cyngor:

Mynediad disgyblion i dosbarthiadau meithrin a derbyn ysgolion cynradd - 2012 - ffurflenni cais

I’w dychwelyd i bennaeth yr ysgol neu yr Adran Addysg a Hamdden erbyn 01/03/2012

I’w chwblhau ar ran disgyblion sy’n gwneud cais am fynediad i ddosbarth DERBYN a MEITHRIN Ysgol Gynradd.

Dylai rhieni sy’n dymuno anfon eu plant i’r ysgol y maent yn byw yn ei dalgylch anfon y ffurflen hon i bennaeth yr ysgol honno cyn gynted a phosib ac erbyn Mawrth 1af fan bellaf. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â pha ysgol yw eich ysgol dalgylch, yna cysylltch â’r Swyddfa Addysg ar 01248 752915.

Dylai rhieni sy’n dymuno anfon eu plant i ysgol ar wahân i’r ysgol leol gyflwyno’r ffurflen hon i’r Adran Addysg a Hamdden yn y cyfeiriad uchod cyn gynted a phosib ac erbyn Mawrth 1af fan bellaf.

Dylai rhieni sy’n dymuno anfon eu plant i Ysgol Santes Fair neu Ysgol Caergeiliog anfon y ffurflen i Bennaeth yr
ysgol cyn gynted a phosib ac erbyn Mawrth 1af fan bellaf.

NODER : Dylid sicrhau bod cais yn cael ei gyflwyno ar ran plentyn yn nodi yr ysgol o’ch dewis. Bydd
ceisiadau lle mae’r rhieni wedi nodi eu dewis o ysgol yn cael blaenoriaeth dros y ceisiadau lle na nodir
dewis.

Ni fydd yr Awdurdod yn ystyried unrhyw gais hwyr hyd nes bydd lleoedd wedi eu gosod i’r plant sydd a’u ceisiadau
wedi eu derbyn erbyn y dyddiad cau.]

Nid yw cwblhau’r ffuflen hon yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol all-ddalgylch

Cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg

Adran Dysgu Gydol Oes
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY
Derbynfa: (01248) 752900
Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch: (01248) 752958 / 752980
Adran Bersonél Addysg: (01248) 752927
Ffacs: 01248 752999
Ebost:addysg@ynysmon.gov.uk
Lleoliad y Swyddfa Addysg

Diweddariad diwethaf: 12 Ion 2012 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?