Gwasanaethau'r Cyngor:

Oes gan fy mhlentyn hawl i addysg feithrin?

Mae Rheoliadau Mynediad dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cyfeirio at fynediad llawn amser yn y Medi yn dilyn y 4ydd penblwydd ac nid ydynt yn gyfreithiol yn berthnasol i fynediad rhan amser yn y Medi yn dilyn y 3ydd penblwydd.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu fod yn rhaid i rieni wneud cais am fynediad rhan amser i ysgol yn y Medi yn dilyn y 3ydd penblwydd gan ddilyn y Canllawiau yma a hefyd dilyn yr un canllawiau i gyflwyno cais am fynediad llawn amser yn y Medi yn dilyn y 4ydd penblwydd. Yr unig wahaniaeth ydi nad oes hawl apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod mynediad yn y Medi yn dilyn y 3ydd penblwydd.

Ers Medi 2004 mae gan bob plentyn hawl statudol i addysg feithrin, wedi ei gyllido gan yr Awdurdod Lleol, o ddechrau’r tymor yn dilyn eu 3ydd penblwydd. Mae Cynllun Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar Cyngor Sir Ynys Môn yn sicrhau darpariaeth addysg feithrin o ddechrau’r tymor yn dilyn pen-blwydd yn 3 oed. Mae’r addysg feithrin a gynigir yn ddi-dâl am o leiaf 2 awr y dydd. Mae’r ddarpariaeth o ddechrau’r tymor yn dilyn y 3ydd penblwydd i’r Medi yn dilyn y 3ydd penblwydd yn ddi-eithriad yn y sector gwirfoddol. Mae’r ddarpariaeth o’r Medi yn dilyn y 3ydd penblwydd mewn ysgolion a gynhelir mewn rhai ardaloedd ac yn y sector gwirfoddol mewn ardaloedd eraill.

Cysylltu â'r Gwasanaeth Addysg

Adran Dysgu Gydol Oes
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY
Derbynfa: (01248) 752900
Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch: (01248) 752958 / 752980
Adran Bersonél Addysg: (01248) 752927
Ffacs: 01248 752999
Ebost:addysg@ynysmon.gov.uk
Lleoliad y Swyddfa Addysg

Diweddariad diwethaf: 10 Meh 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?