Pa bryd mae plant yn dechrau ysgol cynradd fel arferol?
Yn arferol derbynnir plant i Ysgolion Cynradd ym Môn unwaith y flwyddyn, yn y Medi yn dilyn eu penblwydd yn 4 oed.
Yr unig eithriadau i fynediad yn y Medi yn dilyn penblwydd yn 4 oed fydd mewn achosion arbennig lle bydd yr
Awdurdod o’r farn y byddai peidio caniatáu mynediad cynnar yn niweidiol i ddatblygiad addysgol a/neu gymdeithasol y plentyn yng nghyd-destun gofynion Deddf Plant 1989 neu Rhestr Amddiffyn Plant.




