Pa bryd mae plant yn dechrau ysgol uwchradd?
Yn arferol derbynnir plant i Ysgolion Uwchradd ym Môn unwaith y flwyddyn, yn y Medi yn dilyn eu penblwydd yn 11
oed.
Yr unig eithriadau i fynediad yn y Medi yn dilyn penblwydd yn 11 oed fydd mewn achosion arbennig lle bydd yr
Awdurdod o’r farn y byddai peidio trosglwyddo flwyddyn yn gynt neu beidio aros blwyddyn ychwanegol yn y sector
cynradd yn niweidiol i gynnydd addysgol neu gymdeithasol y plentyn.




