Sut allaf wneud cais i ysgol ym Môn os nad wyf yn byw yn y sir?
Dylai ceisiadau (mewn perthynas â phlant sy’n byw tu allan i Fôn) am fynediad i ysgol sy’n cael ei chynnal gan Awdurdod Lleol Ynys Môn gael eu cyflwyno mewn ysgrifen i Gyfarwyddwr Addysg a Hamdden Cyngor Sir Ynys Môn.
Pan fo rhieni sy’n byw ym Môn yn dymuno anfon eu plant i ysgol sy’n cael ei chynnal gan Awdurdod Lleol arall, dylent geisio mynediad i’r ysgol o’u dewis trwy ddilyn y drefn mynediad sydd wedi ei phennu gan yr Awdurdod hwnnw.




