Trosglwyddo a symud plant
Dylai rhieni sy’n dymuno trosglwyddo eu plentyn o un ysgol i un arall, ar wahân i’r adegau trosglwyddo arferol y cyfeirir atynt uchod, neu pan mae’r teulu yn newid cyfeiriad, wneud cais ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden, ond nid cyn trafod yn fanwl yn y lle cyntaf gyda’r ddau/ddwy bennaeth perthnasol.
Ystyrir y cais yng nghyd-destun polisi mynediad yr Awdurdod a bydd y drefn apêl yn berthnasol i ddyfarniadau dan yr adran hon hefyd. Cynghorir rhieni yn gryf i beidio a throsglwyddo disgyblion yn ystod blwyddyn ysgol rhag amharu ar eu cwrs addysg.




