Ailgylchu a gwastraff
Gwybodaeth ar y cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu ar yr ynys.
Croeso i dudalen yr Adain Rheoli Gwastraff, Yma, cewch wybodaeth am gasglu gwastraff domestig a deunydd ar gyfer ei ailgylchu, y gwasanaeth casglu gwastraff swmpus, cyngor ynghylch ailgylchu, toiledau cyhoeddus, ceisiadau am finiau / blychau ailgylchu newydd a llawer iawn mwy!
Mae’r Adain Rheoli Gwastraff yn gyfrifol am gasglu a chael gwared ar wastraff domestig a deunydd ar gyfer ei ailgylchu ac mae’n darparu nifer o wasanaethau i’w gwneud hi’n haws i bawb fwynhau Ynys Môn sy’n wyrddach ac yn lanach..
Biffa - yw ein contractwr casglu gwastraff ac mae’r Adain Rheoli Gwastraff yn rhoi contract iddynt fel busnes allanol. Mae Biffa â chontract i wagio’r blychau ailgylchu coch a glas a’r biniau gwastraff bwyd bob wythnos â’r bin gwyrdd ar gyfer gwastraff gwyrdd o’r ardd a’r bin du ar gyfer unrhyw wastraff gweddilliol bob yn ail wythnos, y naill yn cael ei wagio un wythnos a’r llall yr wythnos wedyn.
Yn yr adain yma

Casgliad gwastraff domestig
Mae’r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff domestig ledled yr ynys.

Ailgylchu a chompostio
Mae ailgylchu nid yn unig yn helpu ein hamgylchedd ym Môn a thu hwnt - mae hefyd yn arbed arian, ynni ac yn creu swyddi lleol.

Gorfodaeth gwastraff
Rydym yn cadw ein hynys hardd yn ‘lân ac yn wyrdd’ drwy gynnal amrywiaeth o wasanaethau glanhau strydoedd, er hynny rydym hefyd yn gofodi deddfwriaeth amgylcheddol.

Cyfleusterau cyhoeddus
Atodir isod rhestr o gyfleusterau cyhoeddus ar yr ynys ynghyd â map..






