Ailgylchu a chompostio
Mae ailgylchu nid yn unig yn helpu ein hamgylchedd ym Môn a thu hwnt - mae hefyd yn arbed arian, ynni ac yn creu swyddi lleol.

Ydych chi’n gwybod?
- defnyddio un dunnell fetrig o bapur wedi’i ailgylchu’n arbed 15 coeden
- ailgylchu caniau’n arbed hyd at 95% o’r ynni sydd ei angen i gynhyrchu caniau newydd
- pob cartref yn cynhyrchu tunnel fetrig o sbwriel bob blwyddyn
Porwch y tudalennau canlynol am ragor o wybodaeth am:
- beth ydych chi’n medru ailgylchu a chompostio
- cyfleusterau ar gyfer ailgylchu ar Ynys Môn
Ailgylchu caniau diod a thuniau bwyd
Drwy ailgylchu ein caniau alwminiwm a dur gallwn helpu i arbed egni ac adnoddau naturiol yn ogystal â lleihau faint o sbwriel sy’n cael ei yrru i safleoedd tirlenwi.
Ailgylchu dillad a tecstiliau
Gall y dillad nad ydych eu hangen gael eu hailddefnyddio’n effeithiol, gan arbed adnoddau hanfodol a meddwl am les yr amgylchedd. Mae ailddefnyddio dillad yn ffordd wych o wneud y mwyaf o’r eitmeau nad ydych eu hangen a gallwch hyd yn oed ailgylchu yr hen ddillad blêr yng nghefn y wardrob.
Ailgylchu gwastraff bwyd
Yng Nghymru rydym yn gwastraffu oddeutu traean o’n bwyd.
Ailgylchu gwydr
Oeddech chi’n gwybod ar Ynys Môn rydym yn ailgylchu 2,700 tunnell o wydr bob blwyddyn ar Ynys Môn. Mae hynny oddeutu 10 miliwn potel neu jar gwydr!
Ailgylchu papur a chardbord
Oeddech chi’n gwybod ein bod yn ailgylchu dros 3300 tunnell o bapur a chardbord bob blwyddyn yma ar Ynys Môn? Gan ei bod ond yn cymryd 7 diwrnod i ailgylchu hen bapurau newydd i rai newydd, fe allwn fod yn darllen yr un papur wythnos yn ddiweddarach - gwych!
Ailgylchu poteli plastig
Rydym yn ailgylchu poteli plastig ar Ynys Môn, unrhyw fath o boteli plastig a oedd yn cynnwys diodydd, sebon golchi ayyb.
Compostio
Mae’n anodd coelio fod natur yn gallu ailgylchu oddeutu treuan o’ch sbwriel ar eich rhan.
Cyfleusterau ailgylchu ar Ynys Môn
Mae yna fanciau ailgylchu a safleoedd ailgylchu cymunedeol ar hyd a lled yr ynys.
Lleihau ac ailddefnyddio – awgrymiadau hwylus
Cwtogwch y swm o lythyrau sothach ‘rydych yn eu derbyn drwy gysylltu gyda Gwasanaeth Post Dewisiol (Ffôn: 0845 0700707). Mae’r gwasanaeth hwn yn ddi-dâl ac ar gael i holl gartrefi y DU. Bydd cofrestriad yn para 5 mlynedd.





