Casgliad gwastraff domestig
Mae’r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff domestig ledled yr ynys.
Mae’n cynnwys gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff domestig ar gyfer oddeutu 32,000 eiddo. Mae gan bob aelwyd ym Môn hawl i gael bin du 240 litr ar olwynion, blwch ailgylchu glas 55 litr, blwch ailgylchu coch 38 litr, bin brown 23 litr ar gyfer gwastraff bwyd ynghyd â chadi cegin brown 7 litr a bin gwyrdd 240 litr ar gyfer gwastraff gardd.
Cesglir y bin du ar yr un diwrnod pob pythefnos, bob yn ail gyda’r bin gwyrdd. Cesglir y blychau ailgylchu coch a glas a’r bin bach ar gyfer gwastraff bwyd ar yr un diwrnod bob wythnos.
Gall yr Adain Rheoli Gwastraff drefnu gwasanaeth ‘cymorth casglu’ ar gyfer trigolion anabl neu’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd mynd â’u biniau i’r pwynt casglu.

Diwrnod casglu gwastraff
Bydd y wybodaeth yma yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i’ch dyddiad casglu, ynghyd â lliw’r bin byddwch angen ei roi allan pob wythnos.

Archebwch bin / bocs ailgylchu newydd / bin gwastraff bwyd / cadi cegin
Er mwyn gwneud cais rhaid i chi:printiwch a llenwch i mewn y ffurflen gais ar waelod y dudalen honCyngor:

Safleoedd ailgylchu gwastraff domestig
Mae gan Ynys Môn ddau ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref a ellir eu defnyddio gan breswylwyr ar gyfer amrywiaeth o wastraff y cartref ac ailgylchu.

Gwastraff swmpus
Efallai bod rhai ohonoch yn glanhau’r ty ac yn cael gwared â hen nwyddau er mwyn cael eich cartref fel pin mewn papur.

Gwastraff bwyd
Mae pob deiliad ar Ynys Môn nawr yn derbyn casgliad gwastraff bwyd wythnosol. Mae’r gwastraff bwyd ynghyd a’r gwastraff gardd gwyrdd yn cael ei brosesu ac yna ei droi yn wellhäwr pridd maethlon.

Cais i cael gwasanaeth cymorth casglu
Cyfyngir y gwasanaeth cymorth casglu i’r aelwydydd hynny sydd mewn angen gwirioneddol yn dilyn proses o gyflwyno cais i’r Cyngor.





