Gwasanaethau'r Cyngor:

Gorfodaeth gwastraff

Rydym yn cadw ein hynys hardd yn ‘lân ac yn wyrdd’ drwy gynnal amrywiaeth o wasanaethau glanhau strydoedd, er hynny rydym hefyd yn gofodi deddfwriaeth amgylcheddol.

Mae gorfodi deddfwriaeth Gwastraff yn ein helpu i rwystro ymddygiad gwrth gymdeithasol, megis gollwng sbwriel a thipio anghyfreithlon.

Mae’r gosb am y troseddau hyn yn amrywio o gost penodol yn y fan a’r lle (£75 am ollwng sbwriel) i ddedfryd o garchar ( i fyny at ddwy flynedd am dipio anghyfreithlon).

Mae ein swyddogion gorfodaeth gwastraff yn ymchwilio i broblemau gyda:

  • tipio anghyfreithlon
  • gollwng sbwriel
  • sbwriel domestig

Mae deddfwriaeth wedi ei gyflwyno i osod cosbedigaeth, drwy  rybuddion cosb penodedig a chamau cyfreithiol, ar y rhai sydd yn cyflawni troseddau amgylcheddol.

Mae deddfwriaeth hefyd yn rheoli amodau y mae’n rhaid i breswylwyr gydymffurfio â hwy pan yn cymryd rhan yng ngwasnaethau casglu gwastraff.

Gorfodaeth yw’r opsiwn terfynol, cyn rhoi unrhyw gosb i breswylwyr byddem yn cysylltu â hwy, eu hysbysu o’r broblem a’u hanogi i gydymffurfio.

Mae’r Adain Rheoli Gwastraff yn cyd weithio gyda phreswylwyr i ddarparu addysg ac arweiniad ar sut i ddelio a chael gwared o wastraff yn gyfrifol, oherwydd rhaid i bawb dderbyn cyfrifoldeb am y swm o wastraff rydym yn gynhyrchu a’r modd yr ydym yn cael gwared ohono.

Cysylltwch â'r Adain Rheoli Gwastraff

Priffyrdd a Rheoli Gwastraff
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn:Ymholiadau cyffredinol: 01248 752860
Ffacs: 01248 752838
Email:gwastraff@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 22 Chwef 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?