Cyngor ar adeiladau hanesyddol a rhestredig
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Gwefannau
-
Mapiau
Mae swyddog cadwraeth yn yr Adain Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd sydd ar gael i roddi cyngor a chyfarwyddyd i’r cyhoedd ar adeiladau hanesyddol.
Gellir cael gwybodaeth p’run a yw adeilad yn un rhestredig ai peidio, ac os ydyw, pa radd ydyw. Os yw adeilad wedi’i restru bydd y swyddog cadwraeth yn gallu rhoddi cyngor ar ba ddiogelwch y mae’r raddfa yn ei darparu.
Argymhellir yn gryf eich bod yn derbyn cyngor p’run a yw adeilad rhestredig angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwneud unrhyw addasiadau. Os oes angen caniatâd gellir trefnu cyfarfod cyn gwneud y cais, sef cyfle i drafod a yw’r newidiadau arfaethedig yn rhai priodol. Bydd y swyddog cadwraeth yn gallu sefydlu a yw’r newidiadau yn rhai sy’n sympathetig i’r adeilad a heb newid y cymeriad.
Gellir cael cyngor hefyd p’run a yw adeilad o fewn ardal cadwraeth ai peidio. Os yw eiddo y tu mewn i ffin ardal cadwraeth mae cyngor ar gael ar ba newidiadau y gellir eu gwneud i adeilad ac ar a oes raid cael caniatâd. Mae llawer o addasiadau i adeilad all fod angen caniatâd ardal cadwraeth ac fe ddylid, bob amser, ofyn am gyngor gan y swyddog cadwraeth cyn gwneud y cais.
Mae’r Adran Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd yn cynhyrchu llenyddiaeth ar adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth i’w dosbarthu i’r cyhoedd ac maent ar gael o ofyn amdanynt.
Os gwyddoch am adeilad y teimlwch chi fod iddo rinweddau hanesyddol a phensaernïol a’ch bod o’r farn y dylai gael ei restru yna dylech gysylltu ag Adran yr Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd yn yr Adran Gynllunio. Yn dilyn gwneud asesiad o rinweddau’r adeilad gan y swyddog cadwraeth, byddai argymhelliad yn cael ei wneud i Cadw yng nghyswllt ei restru ai peidio.




