Gwasanaethau'r Cyngor:

Ardaloedd cadwraeth

Mae ardaloedd cadwraeth yn ‘ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y mae’n ddymunol cadw neu wella eu cymeriad/edrychiad’.

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol ddynodi ardaloedd cadwraeth a llunio polisïau ar gyfer eu cadw a’u gwella.

Cymeriad ac edrychiad yw’r ddwy ffactor bwysicaf i’w hystyried wrth ddynodi ardal gadwraeth. Mae gan Ynys Môn ystod eang o adeiladau hanesyddol a thirwedd naturiol arbennig. Y mae, felly, yn bwysig bod yr ardaloedd yn cael eu hamddiffyn er mwyn sicrhau y bydd eu cymeriad a’u hedrychiad unigryw yn cael ei gadw yn hytrach na’i altro gan ddatblygiad anaddas.

Ble mae’r ardaloedd cadwraeth?

Fe geir 12 ardal gadwraeth ar Ynys Môn:

  • Aberffraw
  • Amlwch
  • Porth Amlwch
  • Biwmares
  • Bodedern
  • Cemaes
  • Canol Caergybi
  • Mynydd Caergybi
  • Caergybi/Traeth y Newry
  • Llanfechell
  • Llangefni
  • Porthaethwy

Mae pob ardal sydd yn gymwys ar gyfer dynodiad ardal cadwraeth yn unigryw ar Ynys Môn gydag adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol, mannau agored cyhoeddus a nodweddion tirwedd. Fodd bynnag, fe geir ffactorau pwysig y dylid eu hymgorffori ymhob ardal gadwraeth. Y rhain yw:

  • adeiladau unigol neu glwstwr o adeiladau
  • adeiladau a phethau o’u cwmpas
  • pensaernïaeth
  • deunyddiau
  • golygfeydd
  • tirwedd
  • dodrefn stryd
  • yr amgylchedd
  • datblygiad hanesyddol yr ardal
Diweddariad diwethaf: 7 Mai 2006 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?