Cadwraeth coed
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Gwefannau
-
Mapiau
Mae awdurdod cynllunio lleol yn meddu ar bwerau penodol i warchod coed trwy orchmynion cadw coed, er mai’r Comisiwn Coedwigaeth sy’n gyfrifol am y rheolau ar gyfer torri coed mewn coetiroedd.
Geir rheolau arbennig mewn perthynas â choed mewn ardaloedd cadwraeth sy’n cael eu rheoli gan awdurdodau cynllunio lleol.
Mae’r daflen hon wedi’i llunio’n arbennig ar gyfer perchnogion coed, y cyhoedd a grwpiau hamdden ac mae’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am y trefniadau gwarchod coed.
Canllaw yn unig ydyw, ac ni ddylid meddwl amdano fel datganiad cyfraith. Dylech holi’ch cyfreithiwr i gael gwybod beth yn union yw’ch hawliau a chyfrifoldebau.
Beth yw gorchymyn cadw coed?
Gorchymyn ydyw wedi’i wneud gan awdurdod cynllunio lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol neu awdurdod parc cenedlaethol) sy’n ei gwneud yn drosedd torri, brigdocio, blingo neu ddadwreiddio coeden, neu ei difrodi neu ei dinistrio yn fwriadol heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio.
Beth yw diben gorchymyn cadw coed?
Er mwyn gwarchod coed sy’n gwneud cyfraniad arwyddocaol i’w hamgylchedd lleol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos coed sydd mewn gwir berygl.
Pa fath o goed fyddai’n dod o dan orchymyn?
Pob math o goed, gan gynnwys coed perthi, ond nid y perthi eu hunain na llwyni. Gall gorchymyn warchod unrhyw beth, o goeden unigol i goetir cyfan.
Sut allai’i gael gwybod a oes gorchymyn yn gwarchod coeden?
Mae’r gorchmynion ar gael i bobl eu harchwilio yn swyddfeydd yr awdurdod cynllunio lleol. Gallwch ofyn am i’r gofrestr pridiannau tir leol gael ei harchwilio cyn ichi brynu eiddo. Os oes gorchymyn wedi’i wneud (neu os yw’ch eiddo mewn ardal gadwraeth), dylai fod wedi’i gofrestru ynddi.
Gwnewch yn siwr bod eich cyfreithiwr yn dweud wrthych os oes unrhyw goed wedi’u gwarchod.
Os gwela’i waith yn cael ei wneud ar goeden wedi’i gwarchod, sut alla’i gael a oes caniatâd wedi’i roi?
Holwch eich awdurdod cynllunio lleol. Bydd ganddo gofrestr o geisiadau a phenderfyniadau ichi eu gweld.
Rwy’n gwybod am goed y dylen nhw, yn fy marn i, eu gwarchod. Beth ddylwn ei wneud?
Cysylltwch â’ch awdurdod cynllunio lleol gan roi manylion y coed, a’r rhesymau pam yn eich barn chi y dylid eu gwarchod.
Er hynny, os yw’r Comisiwn Coedwigaeth eisoes wedi rhoi help trwy gynllun grant coedwigaeth, rhaid cael caniatâd y Comisiwn cyn rhoi gorchymyn cadw coed.
Cyn rhoi gorchymyn ar gyfer cadw coed ar Dir y Goron, rhaid i’r awdurdod cynllunio ofyn caniatâd yr awdurdod perthnasol. Mae Tir y Goron yn cynnwys tir sy’n eiddo i adrannau’r llywodraeth a thir y mae adran o’r llywodraeth yn ei gadw ar ran y Frenhines.
A yw gorchymyn yn dod i rym ar unwaith?
Gall awdurdod cynllunio lleol wneud gorchymyn, os dymuna, sy’n dod i rym ar unwaith a bydd yn parhau mewn grym am chwe mis neu tan y caiff ei gadarnhau, pa un bynnag ddaw gyntaf.
Sut ca’i wybod bod awdurdod cynllunio lleol wedi gwneud gorchymyn cadw coed?
Bydd yn ysgrifennu at y perchennog a phawb arall sydd â diddordeb, gan amgau copi o’r gorchymyn.
Sut galla’i wrthwynebu neu gefnogi gorchymyn?
Os ydych chi neu unrhyw un arall am wrthwynebu neu gefnogi gorchymyn, ysgrifennwch at eich awdurdod cynllunio lleol o fewn y cyfnod penodol (28 diwrnod fel arfer) i esbonio pam gan gofio rhoi manylion y coed dan sylw. Bydd yr awdurdod cynllunio yn ystyried eich sylwadau pan ddaw’n bryd cadarnhau’r gorchymyn.
Ai’r awdurdod cynllunio fydd wedyn yn gyfrifol am y goeden?
Nage. Y perchennog fydd yn parhau’n gyfrifol am unrhyw goed, am eu cyflwr ac am unrhyw ddifrod y gallen nhw eu hachosi. Ond mae’n rhaid cael caniatâd yr awdurdod cynllunio cyn gwneud unrhyw waith arnyn nhw, oni bai eu bod yn marw, wedi marw neu’n beryglus.
Gall yr awdurdod cynllunio gynnig help a chyngor ar sut i ofalu am y coed.
A oes eisiau trwydded cwympo coed y Comisiwn Coedwigaeth arna’i i dorri coed sydd o dan orchymyn cadw coed?
P’un a oes gorchymyn cadw coed wedi’i roi neu beidio, rhaid ichi ofyn i’r Comisiwn Coedwigaeth yn gyntaf am drwydded i dorri coed sydd yn cynnwys mwy na phum metr ciwbig o bren - cyn belled nad oes mwy na dau fetr ciwbig o unrhyw eithriad yn cael eu gwerthu - mewn unrhyw chwarter calendr.
Disgrifir yr eithriadau hyn yn Neddf Goedwigaeth 1967 a Rheoliadau’r Ddeddf honno. Er enghraifft, nid oes angen trwydded arnoch i dorri coed mewn gerddi.
Os oes eisiau trwydded arnoch a bod gorchymyn cadw coed wedi’i roi ar gyfer y coed, bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn gofyn i’r awdurdod cynllunio lleol am ei farn. Os bydd y Comisiwn yn penderfynu rhoi’r drwydded, bydd yn dweud yn gyntaf wrth yr awdurdod cynllunio lleol.
Mewn achosion o’r fath, bydd gan yr awdurdod cynllunio’r hawl i wrthwynebu ac os gwnaiff hynny, caiff y cais ei roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru iddyn nhw benderfynu ar y mater.
Dylai ymgeiswyr gofio y bydd y Comisiwn, bron yn ddieithriad, yn gofyn ichi blannu coed newydd ar y tir lle cwympwyd y coed ac nid yw fel arfer yn rhoi trwyddedau er mwyn troi coetir yn dir ffermio.
Beth os wyf am weithio ar goeden sydd wedi’i gwarchod ond nad oes eisiau trwydded gwympo arna’i?
Ysgrifennwch at yr awdurdod cynllunio lleol i ofyn iddyn nhw am eu caniatâd, gan ddisgrifio’r goeden, beth ydych am ei wneud a pham.
Efallai y byddai’n ddoeth ichi holi meddyg coed iddo esbonio ichi beth ddylech ei wneud.
Mae gan y Gymdeithas Gwyddor Coed restr o feddygon coed cymeradwy. Gweler y tab “cysylltiadau”” uchod.
A oes raid imi gael caniatâd yr awdurdod cynllunio bob tro cyn gweithio ar goeden wedi’i gwarchod?
Oes, ond ddim ar gyfer:
- torri coed yn unol ag un o gynlluniau grant y Comisiwn Coedwigaeth neu os ydy’r Comisiwn wedi rhoi trwydded gwympo
- torri neu docio coeden:
- sy’n marw, wedi marw neu’n beryglus, neu
- yn unol â gorchymyn trwy Ddeddf Seneddol, neu
- ar gais mudiadau/cyrff sydd ar fin dechrau ac mae caniatâd manwl wedi’i roi ar ei gyfer, neu
- sydd yn ffordd datblygiad sydd ar fin dechrau ac mae caniatâd cynllunio manwl wedi’i roi ar ei gyfer, neu
- mewn perllan fasnachol neu er mwyn tocio coeden ffrwythau yn unol â dulliau perllan dda, neu
- er mwyn rhwystro neu reoli niwsans cyfreithlon (holwch eich cyfreithiwr yn gyntaf).
Os oes gennych unrhyw amheuon, holwch yr awdurdod cynllunio.
Os nad oes eisiau caniatâd yr awdurdod cynllunio na’r Comisiwn Coedwigaeth arna’i, a oes dal eisiau imi ddweud wrthyn nhw am y gwaith rwy’n bwriadu ei wneud?
Os nad oes argyfwng, dylech roi o leiaf bum niwrnod o rybudd i’r awdurdod cynllunio lleol cyn ichi dorri coeden sydd wedi’i gwarchod sy’n marw, wedi marw neu’n beryglus.
Gwnewch hynny er eich lles eich hunan - fe allai’r awdurdod eich erlyn os tybir ichi wneud gwaith heb ganiatâd.
Gallai benderfynu hefyd nad oes gofyn ichi blannu coeden yn ei lle.
Rhaid i gofio serch hynny, mai chi sy’n gyfrifol am eich coed ac am unrhyw ddifrod y gallen nhw ei achosi.
Pryd fydd yn rhaid imi blannu coed yn eu lle?
Bydd yn rhaid ichi ailblannu:
- os ydych yn torri neu’n dinistrio coeden wedi’i gwarchod:
- yn groes i orchymyn, neu
- cyn belled nad yw’n goetir, am fod y goeden yn marw, wedi marw neu’n beryglus, oni ddywed yr awdurdod cynllunio wrthych i beidio;
- os yw’r awdurdod cynllunio yn rhoi caniatâd ichi dorri coeden wedi’i gwarchod ond bod ailblannu yn amod o’r caniatâd;
- yn y rhan fwyaf o achosion y mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn rhoi trwydded gwympo.
Mae awdurdodau cynllunio lleol yn meddu ar bwerau i sicrhau’ch bod yn plannu coed yn lle’r rhai a gwympwyd.
Beth fyddai’n digwydd pe bawn yn gweithio heb ganiatâd ar goeden wedi’i gwarchod?
Pe baech yn dinistrio coeden yn fwriadol neu’n ei difrodi mewn ffordd a fydd yn debygol o’i dinistrio, gallech gael cymaint ag £20,000 o ddirwy pe’ch ceid yn euog mewn llys ynadon.
Wrth benderfynu faint o ddirwy i’w roi, bydd y llys yn ystyried unrhyw elw a gawsoch o ddinistrio’r goeden. Am droseddau eraill, gallech gael hyd at £2,500 o ddirwy.
Bydd gofyn ichi blannu coeden arall yn lle coeden rydych wedi’i dinistrio neu’i difrodi.
Beth pe bai fy nghais i weithio ar goeden wedi’i gwarchod yn cael ei gwrthod neu pe bawn yn gwrthwynebu amodau’r awdurdod cynllunio?
Gallwch apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifennedig o fewn 28 diwrnod ar ôl clywed y penderfyniad. Yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n delio ag apeliadau.
Os oes gennych gwestiynau am bolisi cysylltwch gyda’r Cynulliad.
Penderfynir ar apeliadau fel arfer heb gynnal gwrandawiad ffurfiol ar sail datganiadau ysgrifennig ac ymweliad â’r safle. Mae hawl gan yr awdurdod cynllunio a chithau i ofyn am ymholiad neu wrandawiad lleol cyhoeddus. Gall y Cynulliad ganiatau neu wrthod apel neu newid amodau penderfyniad gwreiddiol.
A ga’i iawndal os caiff fy nghais i weithio ar goed/coetir wedi’u gwarchod ei wrthod neu os caiff amodau eu gosod?
Os caiff caniatâd ei wrthod - neu ei roi gydag amodau - gallwch geisio iawndal oddi wrth yr awdurdod cynllunio am unrhyw ddifrod neu golled gwerth £500 neu fwy o ganlyniad i’r penderfyniad.
Er hynny, ni chwech hawlio iawndal os ydy’r awdurdod cynllunio, o dan amodau’r gorchymyn, wedi cyhoeddi tystysgrif sy’n dweud naill ai:
- bod y cais wedi’i wrthod neu’r amodau wedi’u gosod er mwyn sicrhau coedwigo da, neu
- bod gwerth arbennig neu neilltuol i’r coed neu’r coetir.
Gallwch apelio i’r Cynulliad yn erbyn tystysgrif o’r fath. Ni fydd awdurdodau cynllunio lleol yn cael rhoi tystysgrifau o dan orchmynion cadw coed a roddir ar ôl 2 Awst 1999. Ond fe fydd modd rhoi tystysgrifau o dan orchmynion a wnaed cyn hynny.
Os yw’r Comisiwn Coedwigaeth yn gwrthod cais am drwydded gwympo, mae’n bosib y gallech gael iawndal oddi wrth y Comisiwn o dan y ddeddf goedwigaeth berthnasol.
Ailblannu coetir: Gallwch wneud cais am iawndal hefyd oddi wrth yr awdurdod cynllunio lleol os bu’n rhaid ichi, ar ôl cael caniatâd i dorri coetir wedi’i gwarchod, i ailblannu’r coetir.
Dim ond os na all y Comisiwn Coedwigaeth roi grant ailblannu am na fyddai’n gyson â dulliau coedwigo da y bydd modd ichi gael iawndal.
Sut mae mynd ati i hawlio iawndal o dan orchymyn cadw coed?
Ysgrifennwch yr awdurdod cynllunio cyn pen 12 mis ar ôl iddo wneud ei benderfyniad neu ar ôl penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
A oes cyfyngiadau pellach mewn ardal gadwraeth?
Oes. Yn achos coed nad oes gorchymyn gwarchod coed wedi’i roi ar eu cyfer, rhaid ichi roi chwe wythnos o rybudd ysgrifenedig i’ch awdurdod cynllunio lleol os ydych am weithio arnyn nhw.
Ni chwech weithio arnyn nhw yn ystod y cyfnod hwnnw heb ganiatâd
Os gwnewch chi, efallai cewch chi’ch cosbi.
Mae’n bosib hefyd y bydd yn rhaid ichi blannu coed yn eu lle.
Ond ni fydd eisiau caniatâd arnoch i dorri neu weithio ar goed sydd â diamedr o lai na 7.5cm (1.5 metr o’r llawr) neu 10cm os ydych yn eu teneuo er mwyn rhoi mwy o le i goed eraill dyfu.
Mae’r eithriadau a ddisgrifir yng nghwestiwn 13 hefyd yn berthnasol. Os nad ydych yn siwr, holwch eich awdurdod cynllunio lleol
Sut effeithir ar goed ar safleoedd datblygu?
Gellir gwarchod coed ar safleoedd datblygu trwy roi gorchymyn cadw coed neu drwy osod amodau ar ganiatâd cynllunio, neu’r ddau.
Gallai’r amodau cynllunio fynnu’ch bod yn plannu coed newydd a bod y rheini yn destun gorchymyn cadw coed. Daw’r gorchymyn i rym cyn gynted ag y cânt eu plannu.
A ga’i weithio ar goed wedi’u gwarchod sydd yn ffordd datblygu arfaethedig?
Fe gewch chi dorri a thocio coed wedi’u gwarchod os ydynt yn uniongyrchol yn ffordd datblygiad sydd ar fin dechrau ac yr ydych wedi cael caniatâd cynllunio manwl ar ei gyfer.
Peidiwch â gweithio ar goed os mai dim ond caniatâd amlinellol sydd gennych. Holwch eich awdurdod cynllunio lleol yn gyntaf.
Gallai’ch erlyn pe bai’n teimlo’ch bod wedi torri neu docio gormod.
Os nad oes eisiau caniatâd cynllunio ar y datblygiad (er enghraifft, i adeiladu cwt yn yr ardd), rhaid ichi ofyn i’ch awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd o dan orchymyn cadw coed cyffredin.
A oes modd atal caniatâd cynllunio - neu rwystro datblygiad sydd wedi’i gymeradwyo rhag mynd yn ei flaen - trwy roi gorchymyn cadw coed ar y coed ar y safle?
Nac oes. Nid yw gorchymyn cadw coed yn golygu na ellir cael caniatâd cynllunio. Ond fe fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn ystyried a oes coed wedi’u gwarchod ar safle cyn rhoi caniatâd cynllunio.
Cyn gynted ag y bydd caniatâd cynllunio wedi’i roi, yr unig goed y cewch chi eu torri yw’r rheini sydd yn angenrheidiol er mwyn i’r datblygiad allu mynd yn ei flaen.
Mwy o wybodaeth
Cewch fwy o wybodaeth am orchmynion cadw coed yn y canlynol:
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (yn arbennig, adrannau 197-214 fel y’u diwygiwyd)
- Deddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (adran 23)
- Deddf Goedwigaeth 1967 (fel y’i diwygiwyd)
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (Offeryn Statudol rhif 1892)
- Canllaw Cynllunio (Cymru) Nodyn Cynghori Technegol (Cymru) 10 - Gorchmynion Cadw Coed.
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi cyhoeddi dogfen ddefnyddiol o’r enw Tree Felling - getting permission.
Cyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chaniatâd Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau.
Hawlfraint y Goron 1999.





