Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd
Rheolaeth Safleoedd Treftadaeth y Byd
Mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau cenedlaethol feddu ar drefniadau rheoli priodol i ddiogelu arwyddocâd eu Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i weithredu pob agwedd ar Gytundeb Treftadaeth y Byd ac rydym yn ymfalchïo yn ein cyfrifoldeb, a weithredir drwy Cadw, o ddiogelu a chadw’r pedwar castell yng Nghaernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares ynghyd â muriau tref Caernarfon a Chonwy, sef Safle Treftadaeth y Byd, a’u cyflwyno i’r cyhoedd.





