Gwrychoedd
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Ceir yma gwybodaeth am wrychoedd uchel a’r rheoliadau gwrychoedd.
Mae gwrychoedd yn rhan bwysig ac amlwg o dirwedd Ynys Môn. Maent yn nodweddion cyffredin yn y cefn gwlad ac yn helpu i ddiffinio’r tirwedd trwy eu siâp a’u pwrpas. Maent yn ychwanegu at gymeriad y tirlun gwledig ac mae iddynt werth hanesyddol, esthetaidd, a defnyddiol; yn ogystal maent yn gynefin pwysig i fywyd gwyllt.
Mae gwrychoedd yn nodwedd draddodiadol a phwysig yn nhirlun hanesyddol yr Ynys ac maent yn rhan o’n treftadaeth wledig, gyda llawer ohonynt yn gannoedd o flynyddoedd oed ac yn aml yn nodi hen derfynau ac yn dystiolaeth o gyfnodau olynol o gau tiroedd.
Am y rhesymau hyn, maent yn haeddu pob ymdrech ar ran y Cyngor, ei bartneriaid a thirfeddianwyr i weithredu’r uniongyrchol ac anuniongyrchol i sicrhau fod yr asedau hyn yn y tirwedd gwledig yn cael eu rheoli’n dda a’u cadw fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.





