Gwasanaethau'r Cyngor:

Rheoli coed

Yn ystod yr 20fed ganrif bu ym Môn, fel yng ngweddill Cymru, gynnydd sylweddol yn arwynebedd y coedydd.

Fodd bynnag, ychydig iawn o goedydd sydd yn yr Ynys o’i chymharu gyda gweddill Cymru, Prydain ac Ewrop. Yn wir mae coedydd hen yn bethau prin iawn yma, a bydd raid eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae coed, gwrychoedd a choedydd yn rhan o dirlun yr Ynys, ac yn werthfawr iawn fel cynefin i fywyd gwyllt; hefyd maent yn gysgod pwysig i anifeiliaid, i grŵpiau ac i gartrefi. Gall coedydd fod yn bethau o wir bwys i’r cymunedau - rhoddant inni amgylchedd diogel a braf i ymlacio a hamddena ynddo, gwneud pethau megis mynd am dro a mynd ar gefn y beic yn hamddenol. Ar y stadau mae nifer o goedydd yn dal i gael eu defnyddio i ddibenion chwaraeon megis saethu. Hefyd rhaid cofio bod coed yn ffynhonnell adnoddau cynaliadwy ac mae modd eu defnyddio i hybu economi Ynys Môn.

Y strategaeth hon yw’r cam cyntaf y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ei gymryd i hyrwyddo dogfen strategaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer coetiroedd a choed, “Coetiroedd i Gymru” a rhoddi’r ddogfen honno yn ei chyd-destun lleol.

Bu ymgynghori mawr ar y strategaeth a chafwyd gan ein partneriaid arweiniad a chyngor allweddol. Mawr obeithiaf y byddwch yn achub ar y cyfle i ddarllen y ddogfen a’n cynorthwyo, fel ein partner, i gyrraedd y targedau hynny sydd yn y cynllun gweithredu a thrwy hynny gyflawni amcanion y strategaeth.

Diweddariad diwethaf: 7 Medi 2009 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?