Gwasanaethau'r Cyngor:

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

Ar y tudalennau canlynol fe gewch fwy o wybodaeth am un o’r tirluniau mwyaf pwysicaf yng Nghymru a’r DU.

Fe gewch hefyd wybodaeth ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddiogelu ac i wella tirlun Ynys Môn.

Rhai o brif nodweddion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn yw’r:

  • clogwyni isel bob yn ail  a thraethau cerrig
  • clogwyni calchfaen serth bob yn ail a thraethau tywodlyd gwych
  • twyni tywod gyda thraethau

Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hefyd yn gartref i oddeutu 7,000 o bobl sy’n byw mewn cymunedau creadigol a bywiog.  Mae’r cymunedau hyn hefyd yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd i’r rhai sy’n dymuno ymlacio ar yr ynys neu gymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau awyr agored megis cerdded ar hyd 201km (125 milltir) llwybr yr arfordir.

Diweddariad diwethaf: 4 Ebr 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?