Bioamrywiaeth a chadwraeth
Mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli bod cyswllt rhwng safon ein bywydau beunyddiol ac iechyd yr amgylchedd yn lleol.

Yma yn Ynys Môn mae gennym yn ein cymunedau - ein trefi, pentrefi, yr arfordir a’r cefn gwlad - amgylchedd naturiol y bydd raid i ni ofalu amdano a’i hyrwyddo, a sicrhau y byddwn ni a’n plant, yn y dyfodol, yn medru mwynhau harddwch y natur sydd ar yr ynys.
Oherwydd ôl gwaith dyn rydym, ar raddfa sy’n cyflymu’n wastad, yn colli bioamrywiaeth y ddaear gan ein gadael, bob un ohonom, yn dlotach ac mae’r systemau sy’n cynnal bywyd - rhai yr ydym yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd - yn cael eu difrodi.
Yn yr adain yma

Beth sy'n bygwth bywyd gwyllt?
Wrth golli cynefinoedd mae bywyd gwyllt yn wynebu risg fawr yn gyffredinol ond hefyd mae yna ddatblygiadau eraill sy’n medru achosi difrod enfawr i gynefinoedd ac i fywyd gwyllt.

Beth ydym yn gwneud i helpu?
Yn gyffredinol mae bioamrywiaeth Prydain yn dirywio. Yn ystod y ganrif ddiwethaf collwyd 100 o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.

Beth yw bioamrywiaeth?
Mae’n ymwneud ag amrywiaeth byd natur ar y ddaear, yn ymwneud ag anifeiliaid a phlanhigion brodorol yn ein cymunedau a chynefinoedd y rhain.
Bywyd gwyllt ac addysg
Cynlluniau ysgolion gwyrdd.

Bywyd gwyllt Ynys Môn
Yma yn Ynys Môn mae gennym yn ein cymunedau - ein trefi, pentrefi, yr arfordir a’r cefn gwlad.

Ffyrdd i helpu bywyd gwyllt
Gellwch weithredu ar ben eich hun, wrth wirfaddoli neu ffurfio grwp o bobl ar gyfer prosiect(au) eich hunain.





