Gwasanaethau'r Cyngor:

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi

Am ddiwrnod difyr yng nghefn gwlad hardd Ynys Môn, beth am ymweld â Pharc Morglawdd Caergybi?

Llyn Llwynog Parc Gwledig y Morglawdd Caergybi

Mae wedi’i leoli wrth ymyl tref a phorthladd Caergybi - y porth celtaidd i Iwerddon.

Mae’r parc yn rhoi blas ar holl brydferthwch, hanes ac apêl naturiol Ynys Môn - a hynny o fewn un safle. Mae gan y parc lawer i’w gynnig:

Arddangosfeydd - gallwch ganfod mwy am fywyd gwyllt a hanes diwydiannol y parc gwledig yn y ganolfan wybodaeth ac yn yr arddangosfeydd awyr agored.

Llyn Llwynog - lle gallwch chi bysgota a gwylio’r cychod bach neu ymlacio yng nghwmni’r ieir dŵr a’r hwyaid gwylltion.

Yr Arfordir Creigiog - mwynhewch y golygfeydd trawiadol wrth grwydro yn yr eithin a’r grug.

Bywyd gwyllt - gwyliwch y brain coesgoch a’r hebogau tramor wrth iddyn nhw hedfan uwchben yr hen chwarel.

Cerdded- mae yma amrywiaeth o lwybrau i gerddwyr ar bob lefel, gan gynnwys mynediad i Mynydd Twr ac Ynys Lawd.

Cafodd Parc Gwledig Morglawdd Caergybi ei agor ym 1990 ac mae wedi’i leoli ar safle hen chwarel. O’r chwarel hon y cafwyd y cerrig i adeiladu morglawdd Caergybi sy’n 2.3km o hyd - y morglawdd hiraf yn Ewrop gafodd ei adeiladu rhwng 1846 a 1873.

Am ragor o wybodaeth gweler ein safle we twristiaeth.

Diweddariad diwethaf: 22 Ebr 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?