Her Cyfeiriannu ym Mharc Gwledig Morglawdd, Caergybi
Beth am roi cynnig ar y cwrs cyfeiriannu ym Mharc Gwledig y Morglawdd Caergybi?

Gellwch lawrlwytho’r mapiau ynghyd â’r tair taflen cwrs (cwrs un yw’r rhwyddaf a chwrs tri yw’r anoddaf).
Mae cyfeiriannu yn weithgaredd awyr agored heriol sydd yn ymarfer y corff a’r meddwl. Y nod yw gwneud eich ffordd yn drefnus rhwng gwahanol bwyntiau sydd wedi eu marcio ar fap cyfeiriannu unigryw a phenderfynu ar y llwybr gorau i gwblhau’r cwrs yn yr amser byrraf.
Waeth pa mor ifanc, hen na ffit ydych chwi oherwydd allwch redeg, cerdded neu jogio ar hyd y cwrs a mynd ymlaen ar eich cyflymder eich hun. Yma cewch lawrlwytho yr holl sydd eu hangen i ddechrau’r her.
Yr holl sydd angen ei wneud yw lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau isod ac ewch ati! Nid oes angen archebu lle ac mae’n rhad ac am ddim!




