Cyngor defnyddiol ar farbeciwio bwyd
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
Yn gyffredinol, gwelir cynnydd yn yr achosion o wenwyn bwyd dros yr haf oherwydd bod y tywydd cynhesach yn peri i heintiau niweidiol mewn bwyd dyfu’n gyflymach.
Hefyd, mae’n hawdd anghofio am arferion glendid bwyd da wrth farbeciwio bwyd yn yr awyr agored, arferion y byddid yn glynu wrthynt yn y gegin.
Dangosodd arolwg o dros 1000 o oedolion yn y DU bod bron i hanner (45%) o aelwydydd yn paratoi bwyd ar farbeciw adref gyda 94% o’r rhain yn bwriadu cael barbeciw yr haf hwn a 69% am gael barbeciw i gyd-ddigwydd gyda gwylio Cwpan y Byd. Tra bod y rhan fwyaf o ddynion yn fodlon gadael i ferched gymryd y cyfrifoldeb am goginio y tu mewn, yn oddeutu 7 allan o 10 o aelwydydd sy’n cael barbeciw, ymddengys bod dynion (8 allan o 10 ohonynt) yn dymuno bod yn gyfrifol am goginio yn yr awyr agored!
Mae yfed alcohol tra’n gyfrifol am farbeciw yn beth poblogaidd iawn i’w wneud ymysg dynion gyda dwy ran o dair ohonynt yn cyfaddef eu bod yn yfed wrth goginio. Dim ond llai nag 1 mewn 10 o ddynion oedd yn honni nad oeddynt byth yn yfed wrth goginio. Er gwaethaf hyn, roedd 98% o ddynion yn gryn hyderus am eu gallu i farbeciwio bwyd yn ofalus!
Gyda thymor y barbeciw ar fin cychwyn, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd eto yn hyrwyddo cynghorion syml ond pwysig ynghylch glendid bwyd i’w cofio gan bawb sy’n frwd ynghylch barbeciws a phêl-droed:
Am farbeciw hwyliog sydd ddim yn mynd i achosi gwenwyn bwyd, dilynwch y cynghorion hyn:
Paratoi’n dda
- goleuwch farbeciws siarcol ymhell ymlaen llaw gan wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio digon o siarcol a’i fod yn llosgi’n goch (dan orchudd o bowdwr llwyd) cyn cychwyn coginio
- golchwch eich dwylo’n ofalus bob amser cyn paratoi bwyd ac ar ôl cyffwrdd cig amrwd a chyn bwyta
- sicrhewch fod yr holl offer coginio a bwyta a’r arwynebeddau gweithio yn hollol lân cyn eu defnyddio
- cadwch anifeiliaid anwes i ffwrdd o fwyd, llestri ac arwynebeddau paratoi
- os nad yw’r cyfarwyddiadau coginio yn dweud fel arall, sicrhewch fod cig amrwd yn cael ei ddadrewi’n llwyr (yn yr oergell neu’r ficro-don) cyn ei farbeciwio er mwyn sicrhau ei fod yn coginio drwyddo.
Storio’n ddiogel
cadwch fwyd oed yn oer a bwyd poeth yn boeth i rwystro haint rhag lluosogi – peidiwch â gadael bwyd yn sefyll o gwmpas
- cadwch gig amrwd mewn cynhwysydd ar wahân i’w atal rhag heintio bwydydd eraill. Peidiwch byth â rhoi cig amrwd yn ymyl salad neu roliau byrgyrs
- sicrhewch nad yw sudd cig amrwd yn sbrencian yn ddamweiniol ar bowlenni gweini bwyd, offer coginio a bwydydd parod
- wrth y barbeciw, tynnwch gaead y cynhwysydd wedi’i inswleiddio mor anaml â phosib a pheidiwch â thynnu allan ond hynny o gig fedr ffitio ar y barbeciw
- gorchuddiwch bowlenni gweini bwyd, bwyd ac offer paratoi bwyd i’w gwarchod rhag llwch a phryfed.
Coginio’n drwyadl
- sicrhewch eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau coginio sydd ar gael
- trowch y bwyd yn rheolaidd a sicrhewch fod byrgyrs, selsig a chywion ieir wedi eu coginio hyd nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt, nad oes unrhyw gig pinc i’w weld y tu mewn iddynt a bod y sudd yn rhedeg yn glir
- os ydych yn ailgynhesu bwyd, sicrhewch ei fod yn chwilboeth drwyddo
Glynwch wrth reolau glendid da
- gall cig amrwd gynnwys bacteria niweidiol megis E. coli 0157. Cadwch gig amrwd ar wahân i fwydydd eraill hyd yn oed wrth goginio
- defnyddiwch offer ar wahân bob amser ar gyfer trosglwyddo’r cig amrwd a thrin y cig sydd wedi’i goginio
- peidiwch byth â rhoi bwyd wedi ei goginio ar blatiau a oedd yn dal cig amrwd
- glanhewch unrhyw offer coginio a bwyta ac arwynebeddau gweithio ar ôl eu defnyddio.
- taflwch fwyd barbeciw sydd wedi ei adael allan am ragor neu dwy awr mewn tywydd poeth iawn
- peidiwch byth â choginio bwyd yn rhannol ar farbeciw a gorffen ei goginio’n nes ymlaen. Fodd bynnag, gellwch goginio cig a chyw iâr yn llawn adref, ei gadw’n oer ac yna ei roi ar farbeciw i ychwanegu blas. Dyma’r ffordd ddelfrydol i sicrhau bod darnau cyw iâr yn cael eu coginio’n drwyadl ar farbeciw.




