Gwasanaethau'r Cyngor:

Rheoli pla

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn darparu gwasanaeth rheoli pla proffesiynol sy’n ymwneud ag eiddo annomestig ac eiddo masnachol fel ei gilydd.

Rydym yn darparu gwasanaeth AM DDIM i ddelio gyda llygod mawr a llygod mewn eiddo domestig ac rydym yn cynnig gwasanaeth rheoli pla am bris isel i fusnesau lleol.

Y pla mwyaf cyffredin yr ydym yn delio gyda nhw ydy:

  • llygod
  • llygod mawr
  • gwenyn meirch
  • chwain
  • pryfed heidiog
  • chwilod duon
  • morgrug
  • llau gwely

Mae gwenyn yn rhywogaeth sy’n cael ei gwarchod.  Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n anghyfreithlon i ladd gwenyn a’r dull rheoli mwyaf addas ydy eu symud yn ddiogel i gwch gwenyn.  Nid yw’r cyngor yn darparu’r gwasanaeth hwn a dylech gysylltu gyda gwenynwr/wraig lleol drwy Gymdeithas Gwenynwyr Prydain a fydd efallai’n codi am ddarparu’r gwasanaeth. Dilynwch y linc ar waelod y dudalen hon am fanylion cyswllt.

Fodd bynnag, gellir cynnig triniaethau ar gyfer mathau eraill o drychfilod ac rydym yn fodlon bob amser i roi cyngor yn rhad ac am ddim.  Hefyd, rydym yn cynnig gwasanaeth sydd ar gael yn rhad ac am ddim i enwi/adnabod trychfilod.

Yn 2011/12, mae cost triniaeth ar gyfer pla o drychfilod mewn eiddo domestig yn £37.00 (yn cynnwys TAW).

Yn achos eiddo masnachol, y gost fesul ymweliad ar gyfer pob triniaeth rheoli pla ydy £81.00 (yn cynnwys TAW), ond mae’r cyngor yn cynnig i fusnesau lleol gontractau masnachol i reoli pla lle mae pla yn cael ei drin yn rheolaidd yn ystod cyfnod o 12 mis.  Mae prisiau yn amrywio gan ddibynnu ar faint yr eiddo, nifer y triniaethau sydd eu hangen ac ati ac rydym yn fodlon cynnal arolwg yn rhad ac am ddim a rhoi dyfynbris i chi.

Ni fedrir gwarantu triniaethau ar gyfer llygod mawr a llygod am gyfnod hwy na phythefnos ar ôl cael gwared ohonynt oherwydd maent yn fanteisgar a gallant ailheintio ardal lle yr oedd teulu arall o lygod mawr eisoes wedi achosi pla.

Bydd yr holl driniaethau yn rhai sy’n achosi cyn lleied o ddioddefaint â phosib.  Mae swyddogion rheoli pla y cyngor wedi cael eu hyfforddi’n llawn ac nid ydynt ond yn defnyddio plaladdwyr a phryfleiddiaid sydd wedi eu cymeradwyo.

Bydd angen i’r deiliaid neu ei g(ch)ynrychiolydd fod yn bresennol yn ystod y driniaeth.

Er nad ydym yn gallu cynnig gwasanaeth a fydd yn cael gwared o adar sy’n achosi niwsans, rydym yn gallu cynnig cyngor ar y mesurau sydd ar gael i leihau’r broblem hon.

Rydym bob amser yn ceisio:

  • rhoddi i gwsmeriaid fanylion am y triniaethau a ddefnyddir yn eu heiddo
  • ymateb i gais am driniaeth o fewn 3 diwrnod gwaith

Am wybodaeth ynghylch moch daear, tyrchod daear, llwynogod, gwiwerod a chwningod, cysylltwch gyda Thîm Rheoli Bywyd Gwyllt Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar 0845 601 4523.

Am ychwaneg o wybodaeth neu i wneud cais am unrhyw un o’n gwasanaethau rheoli pla, cysylltwch â’r Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Gweler y tab “cysylltiadau” uchod.

Diweddariad diwethaf: 12 Ebr 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?