Cynllun Datblygu
Penderfynwyd rhoi’r gorau i weithio ar Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (CDU) a symud ymlaen i weithio ar system Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl).
Unwaith y mabwysiedir y cynllun hwn bydd yn disodli’r fframwaith cynllunio sydd gennym ar hyn o bryd, sef Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (2001) Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993) a Chynllun Lleol Ynys Môn(1996).
Beth yw cynllun datblygu?
Gweledigaeth y cynllun datblygu yw cymunedau cynaliadwy ar Ynys Môn ac mae’n pennu fframwaith o bolisïau fydd yn cael eu defnyddio i gynorthwyo gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Mae’r cynllun yn ystyried yr angen am ddatblygiad a chadwraeth fel ei gilydd ac yn siapio’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud ar faterion cynllunio pwysig. Bydd hefyd yn cysylltu â pholisïau eraill y cyngor ar briffyrdd, gwastraff, yr amgylchedd a datblygiad economaidd.
Caiff y cynllun ei baratoi trwy ymgynghori â’r cyhoedd a bydd yn tywys datblygiad i’r lle mwyaf priodol iddo. Bydd hefyd yn cyfyngu ar ddatblygiad lle nad yw’n addas. Mae’r cynllun yn ystyried llawer math o ddatblygiad gan gynnwys preswyl, diwydiant a thwristiaeth. Caiff ei arolygu, ei adolygu a’i ddiweddaru i ddarparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cyson yn y dyfodol.
Bydd y cynllun hefyd yn ystyried cyfarwyddyd Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r cyngor sy’n cael ei gynnig ar lawer o bynciau gan gynnwys adwerthu, telathrebu, twristiaeth ac ati.
Cynllun Datblygu Lleol
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn nodi bwriadau a pholisïau Ynys Môn ynghylch datblygiadau a defnydd tir ar yr ynys.
Cynllun Datblygu Unedol
Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, fel y'i newidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio yng Nghymru baratoi cynllun datblygu unedol (CDU) ar gyfer ei ardal.
Cynllun Fframwaith Gwynedd
Fe gafodd y Cynllun Fframwaith ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar y 29ain Hydref, 1993 a cafodd ei gyhoeddi gan y Cyngoer Sir (hen gyngor Gwynedd) ym mis Tachwedd 1993.
Cynllun Lleol Ynys Môn
Mae Cynllun Lleol Ynys Môn a gafodd ei fabwysiadu yn 1996 yn gynllun sydd yn ymwneud â’r cyfan o’r Ynys ac yn disodli’r cynlluniau blaenorol gan gynnwys Cynllun Lleol Afon Menai a Cynllun Tref Caergybi / Trearddur.
Polisi Cynllunio Dros Dro
Cyflwynir y polisi interim hwn i sicrhau fod y Cyngor yn cynnal cyflenwad digonol o dir am 5 mlynedd ar yr Ynys, yn unol â chanllawiau cenedlaethol.





