Rheoli Cynllunio: Gwastraff
Mae’r ffordd yr ydym yn delio hefo’n gwastraff yn newid. Mae Cyfarwyddiadau Ewropeaidd, fel y Cyfarwyddyd Tirlenwi, yn ceisio tuag at wyro gwastraff rhag cael ei dirlenwi fel y gellir ei ddelio hefo mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.
O’r herwydd mae ail-ddefnyddio, ail-gylchu ac adennill gwerth o wastraff yn flaenllaw yn y maes rheoli gwastraff cyfredol. O ganlyniad, bu angen rhwydwaith newydd o gyfleusterau i dderbyn, trin a gwaredu gwastraff.
Mae gan Cynllunio gyfraniad pwysig i’w wneud yn y cyswllt hwn. Yn ogystal a chyfrannu tuag at y broses o adolygu a diweddaru Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru, bu’r Gwasanaeth hefyd yn cyfrannu tuag at ddrafftio polisiau cynllunio gwastraff lleol a delio gyda cheisiadau cynllunio am ddatblygiad sy’n gysylltiedig a gwastraff.





